Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn agor campws cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys

Ar ddydd Iau 13 Hydref agorwyd campws cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys, yn Ysbyty Cymunedol Bronllys yn swyddogol gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y cyfleuster newydd gwerth £1.6 miliwn yn gymorth i wella mynediad at hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol yn y sir gan annog mwy o bobl i gael gyrfa yn y sector.

Mae Campws Bronllys yn cynnwys canolfan hyfforddi yn Neuadd Basil Webb ar ei newydd wedd, gofod dysgu awyr agored newydd, a gofod byw wedi’i addasu yn y byngalo Magpies.  Mae’r byngalo wedi cael ei ailwampio gyda’r nod o’i ddefnyddio i ddarparu dysgu wedi’i efelychu mewn lleoliad cymunedol.  Megis dechrau mae’r cynlluniau ar gyfer academi fodern ledled y sir, gyda safleoedd llai i’w datblygu dros y pum mlynedd nesaf.

Cafodd y gwaith ei gwblhau gyda chymorth £1.1 miliwn mewn grantiau cyfalaf gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (ICF) a £500,000 o gyllid pellach a ddarparwyd gan aelodau o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Roeddwn yn falch o weld y gwaith arloesol sy'n digwydd ym Mhowys i wella sgiliau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol y sir, diolch i'n cymorth drwy'r gronfa gofal integredig.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y dysgwyr y gwrddais â nhw heddiw yn datblygu yn eu gyrfaoedd o ofalu am bobl pan fydd eu hangen mwyaf gan wneud hynny gydag ymroddiad mawr am flynyddoedd lawer i ddod.

"Sefydlwyd y byrddau partneriaethau rhanbarthol i sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn cydweithio i wella iechyd a lles, ac mae'n braf gweld hyn yn gweithio'n dda ym Mhowys."

Yn ystod ei hymweliad, gwelodd y Gweinidog ei hun peth o'r gwaith sy'n cael ei wneud i helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf o weithlu iechyd a gofal cymdeithasol y sir – dysgwyr ôl-16 o ysgolion uwchradd Powys – i chwarae rôl allweddol yn y sector. Cafodd y cyfle hefyd i gwrdd â rhai o ofalwyr di-dâl yr ardal sy'n elwa o dechnegau dysgu i wella eu hiechyd meddwl a'u lles.

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (RPB) sy’n cynnwys ystod o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), sy’n cydweithio i wella iechyd a lles preswylwyr y sir.

Dywedodd Carl Cooper Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys a Phrif Weithredwr PAVO: "Roeddem wrth ein boddau yn croesawu'r Gweinidog i'n campws newydd heddiw, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni ddangos peth o'r hyfforddiant gwych sydd eisoes yn digwydd a diolch iddi am gymorth Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn.

"Ein huchelgais yw bod yr academi yn cefnogi'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i gyrraedd y brig ac i fod y dewis cyntaf i’r rhai sy'n dechrau neu'n dychwelyd i gyflogaeth yn y sir, ac i ddod yn ddarparwr rhagorol o addysg broffesiynol a chlinigol wledig drwy ddysgu efelychu wyneb yn wyneb a gwersi rhithwir.

"Bydd yr academi hefyd yn cefnogi datblygiad ein harweinwyr a'r gweithlu, gan gynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, i ddarparu modelau gofal arloesol ac o’r radd flaenaf i'n dinasyddion mewn ffordd amserol ac effeithiol. "

Y campws yn Ysbyty Cymunedol  Bronllys yw'r cyntaf o sawl safle y mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys yn bwriadu eu datblygu fel rhan o'i raglen Dyfodol y Gweithlu, gan gynnwys prif safle arall, neu safle hwb, ar Gampws Lles Gogledd Powys arfaethedig, yng nghanol y Drenewydd. Bydd technoleg ddigidol hefyd yn cael ei defnyddio i gysylltu sawl safle ac i alluogi dysgu o bell.

Cafodd y cyllid gan Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn 2020 a 2022.

Am fwy o wybodaeth am yr academi a'i phedair ysgol, ewch i wefan Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys: https://www.powysrpb.org/powyshealthandcareacademy

 

 

Cyhoeddwyd: 14/10/2022

Rhannu:
Cyswllt: