Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gyda'n Gilydd: Cyflwyno drafft ein Modelau System Gofal

Gwella Gyda'n Gilydd yw ein haddewid i weithio gyda'n gilydd - gyda defnyddwyr ein gwasanaethau, gyda'r cyhoedd, gyda staff iechyd a gofal a gyda'n sefydliadau partner - i adolygu'n drylwyr sut a ble rydym yn darparu ein gwasanaethau, er mwyn sicrhau ein bod yn gwella ansawdd ac yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym.

Mae miloedd o leisiau wedi bod yn rhan o hyn hyd yn hyn:

Mae dylunio ffyrdd newydd o weithio ar gyfer gwasanaethau iechyd ym Mhowys yn dasg gymhleth, yn enwedig wrth ystyried anghenion gwahanol ein cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau, ein staff a'n rhyngweithiadau â sefydliadau partner. I helpu gyda hyn, rydym wedi defnyddio eich adborth i greu Modelau Gofal Lefel System (Saesneg yn Unig). Y rhain yw: 

  • Y Weledigaeth Gyffredinol ar gyfer Iechyd Corfforol a Meddyliol 
  • Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Lles 
  • Y model Cymuned Integredig 
  • Y Model Iechyd Meddwl  

Beth yw Model System o Ofal? 

Mae Model System o Ofal yn ceisio disgrifio'r system y bydd ein gwasanaethau'n gweithio ynddi a sut y bydd pobl yn eu profi. Nid ydynt yn ceisio disgrifio strwythur gwasanaeth, na pha mor weithredol y bydd y model yn cael ei gyflwyno. 

Mae'r modelau'n ein helpu ni ddatblygu'r opsiynau ar gyfer darparu'r gwasanaeth, gan sicrhau, sut bynnag y byddwn yn strwythuro ein gwasanaethau yn y dyfodol, eu bod yn cyflawni'r dyheadau o fewn y modelau. 

Y Weledigaeth Gyffredinol ar gyfer Iechyd Corfforol a Meddyliol 

Mae ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol ym Mhowys yn disgrifio ein huchelgais i bobl gael gofal yn y lle mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion. Mae hefyd yn disgrifio'r uchelgais yr ydym am alluogi pobl i dderbyn y rhan fwyaf o'u gofal gartref neu yn eu cymuned leol. 

Mae'r model hefyd yn disgrifio'r cysyniad o Ganolfannau Rhanbarthol Gwledig, a fyddai'n lleoedd lle gellir lleoli sawl gwasanaeth i ddarparu gofal mwy arbenigol ac yna defnyddio gwasanaethau y tu allan i'r sir dim ond pan fo'r angen mwyaf. 

Y Model Cymdeithasol o Iechyd a Lles

Wrth wraidd Gwella Gyda'n Gilydd mae'r angen i gael dull "person cyfan" o iechyd a lles sy'n symud y ffocws o drin salwch i atal afiechyd a hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffactorau ehangach hynny sy'n penderfynwyr iechyd - cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd, diwylliannol - fel ein bod yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, grymuso cymunedau, cydweithio a thegwch.  Yn y tymor byr, nod hyn yw helpu'r GIG drwy leihau'r galw, yn hirdymor mae'n cyflawni ein nodau ar gyfer canlyniadau iechyd gwell i'r boblogaeth ar draws cwrs bywyd.

Y Model Cymunedol Integredig

Mae ein model nesaf yn canolbwyntio'n benodol ar sut y gallwn symud tuag at ddull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol. Wrth wraidd hyn mae ein huchelgeisiau i: ddarparu gofal integredig sy'n seiliedig ar le, sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n cael ei alluogi'n ddigidol ac sy'n rhagweithiol; atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chefnogi rhyddhau amserol; a sicrhau gofal a thriniaeth fwy di-dor.

Y Model Iechyd Meddwl

Mae'r model hwn yn ceisio gwella ein dull o ymdrin ag iechyd meddwl a lles. Y nod yw i bobl ym Mhowys gael mynediad hawdd at wasanaeth iechyd meddwl amserol, di-dor a chyfannol sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion; bydd y gwasanaeth yn gyfoes, yn ddiogel ac yn gynaliadwy, ac yn cael ei ddarparu gan weithlu medrus, integredig ac amlddisgyblaethol sy'n hyrwyddo gobaith a dewis ac yn grymuso cleifion i fod wrth wraidd eu gofal a'u triniaeth.

Gallwch ddarllen ac argraffu'r Modelau Gofal Lefel System yn y ddogfen hon i’w lawrlwytho.