Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gyda'n Gilydd: Diweddariad i wleidyddion Powys gan Dr Carl Cooper a Pete Hopgood

Annwyl Gydweithwyr

Rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ers 2024, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi bod yn gweithio gyda'r cyhoedd a'n partneriaid i ddatblygu Gwella Gyda'n Gilydd, ein rhaglen drawsnewid fawr ar gyfer ailgynllunio gwasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys.

Gobeithiwn y bydd y llythyr hwn yn helpu i nodi'r sefyllfa bresennol a rhai camau nesaf.

I grynhoi'r wybodaeth ar y tudalennau canlynol:

  • Mae'r gwaith cyfredol yn canolbwyntio ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion ac mae'n cynnwys rhai gwasanaethau diagnostig i bob oed a gwasanaethau Uned Anafiadau Bach, i bobl un oed a hŷn.
  • Rydym yn dal i fod yng nghyfnod cynnar y gwaith hwn ac nid yw'r Bwrdd wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ar opsiynau. Fodd bynnag, bydd angen penderfyniadau beiddgar i sicrhau bod gwasanaethau'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Ym mis Medi 2026, bydd y Bwrdd yn ystyried a ydym yn barod i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar opsiynau posibl ar gyfer newid.
  • Disgwylir penderfyniadau yn dilyn ymgynghoriad llawn ac ystyrlon â'r cyhoedd, partneriaid a staff dim cynharach na Gwanwyn 2027.
  • Nid oes unrhyw gynlluniau na chynigion i gau unrhyw safleoedd ysbytai cymunedol ym Mhowys.
  • Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael o'n gwefan biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd a gallwch gofrestru i dderbyn rhybuddion newyddion rheolaidd biap.gig.cymru/tanysgrifio

 

Trosolwg

Rydym yn ddiolchgar iawn i gydweithwyr Cynghorwyr Sir am y bartneriaeth barhaus i ddatblygu a chyflawni ein Strategaeth Iechyd a Gofal ar y Cyd ar gyfer Powys. Cafodd y strategaeth hon ei llywio gan filoedd o leisiau ledled Powys a, thrwy hyn, rydym wedi cytuno ar uchelgais a rennir: helpu pobl i aros yn iach ac yn annibynnol am hirach, darparu mwy o ofal yn agosach at adref a sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae cyflawni'r weledigaeth honno yn gofyn i ni ymateb i nifer o heriau sylweddol, gan gynnwys anghenion iechyd sy'n newid, pwysau gweithlu a galw cynyddol am wasanaethau yng nghyd-destun y cyfyngiadau ariannol sy'n wynebu pob gwasanaeth cyhoeddus. Mae ein rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd wedi'i sefydlu i archwilio sut y gallwn drawsnewid gwasanaethau fel eu bod yn gallu diwallu anghenion pobl ledled Powys yn well, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn dal i fod yng nghyfnod cynnar y gwaith hwn, ac nid yw'r Bwrdd wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch unrhyw un o'r syniadau neu'r opsiynau sy'n cael eu datblygu.

Ym mis Medi 2026, bydd y Bwrdd yn ystyried a ydym yn barod i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar opsiynau posibl ar gyfer newid. Disgwylir penderfyniadau yn dilyn ymgynghoriad llawn ac ystyrlon â'r cyhoedd, partneriaid a staff dim cynharach na Gwanwyn 2027.

 

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r miloedd o gyfranogwyr sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn hyd yn hyn:

Yn seiliedig ar y gwaith hwn, mae wedi dod yn fwyfwy amlwg nad yw "dim newid" yn opsiwn. Gwyddom y gall pobl hŷn brofi niwed a dirywiad yn sgil derbyniadau i'r ysbyty. Gwyddom hefyd y gellid gofalu'n well am dros hanner y cleifion sydd ar hyn o bryd mewn gwely ysbyty cymunedol gartref, pe bai'r gwasanaethau gofal iechyd cymunedol cywir ar gael. Bydd gwelyau Ysbyty Cymunedol yn parhau i fod yn elfen hanfodol a gwerthfawr o unrhyw fodel gwasanaeth yn y dyfodol, ond mae angen iddynt chwarae'r rôl gywir fel rhan o system gofal iechyd a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol.

O ganlyniad, mae angen i ni ddod o hyd i atebion ar gyfer y dyfodol sy'n:

  • Rhoi mwy o ffocws ar atal afiechyd.
  • Gweithredu’n well wrth gefnogi pobl i aros yn iach gartref, gan gymryd camau cyn i'w cyflwr ddirywio fel bod angen i lai o bobl gael eu derbyn i'r ysbyty
  • Penderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar welyau yn y dyfodol, gan ddarparu lefel uwch o ofal o fewn y sir, fel ein bod yn lleihau hyd yr arhosiad ac yn lleihau'r angen i gael eu derbyn i Ysbyty Cyffredinol.

Bydd angen i'r datrysiadau cywir ddod â sgiliau a thalentau o bob cwr o'r sir ynghyd. Mae cydweithio â gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a'n poblogaeth yn hanfodol.

 

Pa syniadau sy'n cael eu hystyried?

Nid oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw safleoedd ysbytai ym Mhowys. Ond mae'n iawn ein bod yn cymryd yr amser i ystyried ystod eang o opsiynau yn ofalus – gan edrych ar sut rydym yn cryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, a sut rydym yn darparu gofal mewn gwelyau yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y dyfodol.

Mae opsiynau manwl yn cael eu datblygu yn seiliedig ar y senarios a gyflwynwyd y llynedd gan y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid:

  1. Dim newid
  2. Newidiadau a datblygiadau bach i'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol
  3. Mwy o wasanaethau'n cael eu darparu o fewn "canolfannau rhagoriaeth" gan gynnwys mewn Canolfannau Rhanbarthol Gwledig. Byddai hyn yn golygu bod rhai o'n gwasanaethau (megis gwelyau ysbyty) yn cael eu darparu mewn llai o leoliadau nag sydd ar gael nawr
  4. Datblygu ac ehangu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael gartref trwy dimau sylfaenol a chymunedol cryfach
  5. Darperir gofal cleifion mewnol, gan gynnwys gwelyau ysbyty cymunedol, y tu allan i'r sir mewn byrddau iechyd cyfagos
  6. Darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys

Ar yr adeg honno yn 2025, cafodd senarios 1 a 6 eu diystyru. Nid yw "Dim newid" yn opsiwn gan fod angen newid er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ac nid oes unrhyw opsiynau diogel na hyfyw ar gyfer darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys.

Mae Senario 5 hefyd wedi'i ddiystyru a bydd gwelyau ysbyty cymunedol yn parhau i gael eu darparu yn y sir.

Rydym yn rhagweld y bydd y senarios hyn yn sail i'r opsiynau manwl ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

Rydym yn cydnabod y byddai rhai o'r senarios hyn yn effeithio ar ba wasanaethau a ddarperir o bob safle ysbyty cymunedol. Yn dibynnu ar y penderfyniadau a wneir yn dilyn ymgynghori, rydym yn awyddus i weithio gyda'r cyhoedd a'n partneriaid i wneud yn siŵr bod gan bob safle rôl glir a bywiog, sy'n cefnogi lles yn y dyfodol yn unol â rhaglen Cymunedol o’r Cychwyn Llywodraeth Cymru.

 

Beth a drafodwyd yn ein cyfarfod Bwrdd ar 29 Gorffennaf 2026?

Gall ein cyfarfodydd Bwrdd greu rhywfaint o ddiddordeb yn y cyfryngau, felly roeddem yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol rhannu'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ein cyfarfod ar 29 Gorffennaf.

Prif ffocws y Bwrdd oedd adroddiad sicrwydd ar y gwaith ar y rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd hyd yn hyn. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar pam mae angen newid, y dystiolaeth a'r gwaith ymgysylltu sydd wedi digwydd hyd yn hyn a'r camau a gymerwyd tuag at gyflwyno Achos Busnes Cyn Ymgynghori i'r Bwrdd ym mis Medi. Clywodd aelodau'r Bwrdd sut mae ymgysylltu â chymunedau, staff, partneriaid a rhanddeiliaid wedi helpu i lunio'r gwaith sy'n dod i'r amlwg, ochr yn ochr â chyngor clinigol, modelu, profi llwybrau a sicrwydd annibynnol.

Mae'r cyflwyniad i aelodau'r Bwrdd yn cynnwys Delyth, y cyntaf o sawl persona gwahanol sy’n cael eu datblygu. Cleifion damcaniaethol yw'r rhain sy'n dangos sut y byddai gwahanol bobl yn elwa o wasanaethau wedi'u trawsnewid.

Ochr yn ochr â'r adroddiad sicrwydd hwn, trafododd a chymeradwyodd y Bwrdd y Cynllun Ymgynghori hefyd. Mae hyn yn canolbwyntio ar sut y byddwn yn ymgynghori. Nid yw eto'n nodi beth fydd yr opsiynau ymgynghori, gan fod y rhain i'w trafod yn ein cyfarfod ym mis Medi. Mae'r cynllun yn cynnwys amrywiaeth o ffyrdd i bobl gymryd rhan, gan gynnwys digwyddiadau galw heibio cyhoeddus ym mhob un o'r 13 ardal ym Mhowys, gweithgaredd ymestyn allan gyda grwpiau cymunedol, grwpiau ffocws a hwylusir yn annibynnol, deunyddiau ymgynghori hygyrch a dadansoddiad annibynnol o'r adborth a dderbyniwyd. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ym mis Medi unwaith y bydd y manylion wedi'u cadarnhau.

Mae fideos o'r cyfarfod ar gael ar ein sianel YouTube:

Mae'r fideos uchod, ynghyd â diweddariad o gyfarfod y Bwrdd, hefyd ar gael o'n gwefan. Mae copi o'r adroddiad sicrwydd a'r cynllun ymgynghori drafft a ystyriwyd gan y Bwrdd ar gael o'n tudalen Dogfennau Technegol Gwella Gyda'n Gilydd.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rydym yn cydnabod bod trafodaethau am ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd lleol o bwys mawr i bobl a gallant greu pryder neu ansicrwydd. Mae hynny'n gwbl ddealladwy.

Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod nad yw cynnal y statws quo yn opsiwn os ydym am i ofal iechyd aros yn ddiogel, o ansawdd uchel ac yn gallu diwallu anghenion y dyfodol. Credwn mai dyma'r amser iawn i gael ymgynghoriad agored ynghylch sut rydym yn adeiladu model gofal cryfach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ym Mhowys.

Yn bwysig, nid yw Gwella Gyda'n Gilydd yn cael ei yrru'n bennaf gan ystyriaethau ariannol. Mae'n ymwneud â chreu system gofal iechyd fodern, wledig sy'n darparu gofal o ansawdd uchel, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am y rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd ar gael o'n gwefan biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd. Mae hyn yn cynnwys yr Achos dros Newid, dogfennau technegol cefndirol, adroddiadau ymgysylltu ynghyd ag adroddiadau ein cyfarfodydd Bwrdd diweddar. Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion newyddion rheolaidd biap.gig.cymru/tanysgrifio

 

 

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi ar y gwaith pwysig sydd o'n blaenau.

Yn gywir iawn,

Dr Carl Cooper, Cadeirydd
Pete Hopgood, Prif Weithredwr Dros Dro