Bydd preswylwyr Powys sy'n byw gyda chanser yn gallu cael gwybodaeth am raglen arloesol o'r enw "Gwella'r Daith Canser ym Mhowys" (ICJ Powys) drwy fewngofnodi i ddolen we newydd a grëwyd i rannu diweddariadau a gwybodaeth am nodau ac uchelgeisiau'r rhaglenni.
Rhaglen partneriaeth tair ffordd yw ICJ Powys a ariennir gan Gymorth Canser Macmillan ac sy'n cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
Dywedodd Dr Jeremy Tuck, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Mae ein tudalen we yn rhoi trosolwg, ynghyd â fideo sy'n amlygu sut y daeth y rhaglen hon i fodolaeth a rhai dolenni defnyddiol i gefnogi sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bracken, PAVO a Credu. Mae yna hefyd rai fideos gan feddygon teulu a phreswylydd sy'n siarad am ei thaith canser. Gall pobl gael mynediad drwy ddolen i'n sianel You Tube. Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sy'n byw gyda chanser yn ei gweld yn adnodd defnyddiol y byddwn yn ei ddiweddaru wrth i ni symud ymlaen gyda'n prosiectau peilot."
Ewch i'r Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys yn https://cy.powysrpb.org/icjpowys