Neidio i'r prif gynnwy

Gwella'r Daith Canser ym Mhowys

 Bydd preswylwyr Powys sy'n byw gyda chanser yn gallu cael gwybodaeth am raglen arloesol o'r enw "Gwella'r Daith Canser ym Mhowys" (ICJ Powys) drwy fewngofnodi i ddolen we newydd a grëwyd i rannu diweddariadau a gwybodaeth am nodau ac uchelgeisiau'r rhaglenni. 

Rhaglen partneriaeth tair ffordd yw ICJ Powys a ariennir gan Gymorth Canser Macmillan ac sy'n cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Dywedodd Dr Jeremy Tuck, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 
"Mae ein tudalen we yn rhoi trosolwg, ynghyd â fideo sy'n amlygu sut y daeth y rhaglen hon i fodolaeth a rhai dolenni defnyddiol i gefnogi sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bracken, PAVO a Credu. Mae yna hefyd rai fideos gan feddygon teulu a phreswylydd sy'n siarad am ei thaith canser.  Gall pobl gael mynediad drwy ddolen i'n sianel You Tube. Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sy'n byw gyda chanser yn ei gweld yn adnodd defnyddiol y byddwn yn ei ddiweddaru wrth i ni symud ymlaen gyda'n prosiectau peilot."

Ewch i'r Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys yn https://cy.powysrpb.org/icjpowys

Rhannu:
Cyswllt: