Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr i ymgymryd â rhagor o rolau cymorth iechyd meddwl ym Mhowys

Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan fwy sylweddol yn y dasg o gynorthwyo cleifion â gwaeledd iechyd meddwl ym Mhowys yn y dyfodol.

Mae bwrdd iechyd addysgu’r sir wedi treialu’r defnydd o Bydis Angor, wedi’u recriwtio gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), gyda’i dîm iechyd meddwl cymunedol yn Aberhonddu ac mae’n awyddus i ymestyn y cynllun.

Defnyddir Bydis Angor i ddarparu cymorth i gleifion sydd angen help gyda’u hiechyd meddwl, naill ai fesul un, neu drwy gweithgareddau grŵp megis cerdded neu arddio, a gellid hefyd ei ddefnyddio helpu cleifion sy’n dioddef gorbryder i ymweld â lleoedd fel tŷ bwyta neu sinema pan fydd y cyfyngiadau’n caniatáu hynny.

Dywedodd Catherine Arnold, Arweinydd Tîm Integredig tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Tŷ Illtyd Bwrdd Iechyd addysgu Powys, yn Aberhonddu: “Rydym wedi darganfod bod yna orbryder sylweddol ymysg ein cleifion ynghylch dychwelyd i sefyllfaoedd cymdeithasol unwaith eto oherwydd eu bod mewn categori risg uchel o ran Covid-19. Mae pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn awyddus i gymryd rhan, ond mae eu hyder wedi’i niweidio gan 12 mis o hunanynysu i ryw raddau.

“Byddai cyfarfod i gael sgwrs mewn siop goffi leol, gyda gwirfoddolwr, hefyd yn fuddiol i lawer o’n cleifion, oherwydd byddai’n cynnig cyfle am fwy o ryngweithio cymdeithasol o fewn eu cymuned eu hunain.”

Gellid gofyn i gleifion hefyd ddod yn wirfoddolwyr eu hunain, fel rhan o’r cynllun, pan fyddant wedi gwneud cynnydd, i gynorthwyo’u hadferiad ymhellach.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) hefyd yn gweithio ar gynlluniau i ddefnyddio gwirfoddolwyr fel Bydis Tec i helpu cleifion iechyd meddwl â sgiliau digidol cyfyngedig i weld eu apwyntiadau, neu i gael rhagor o wybodaeth am eu cyflwr, neu eu diddordebau ar-lein.

Ychwanegodd Louisa Kerr, Pennaeth Dros Dro Gweithrediadau Iechyd Meddwl PTHB: “Mae angen cymorth ar rai o’n cleifion i fewngofnodi a gallu mynychu grwpiau therapi gyda’n hymarferwyr iechyd meddwl a’n staff clinigol. Ac mae hyn yn ardal lle gallai gwirfoddolwyr fod yn ddefnyddiol iawn.

“Ni fydd gwirfoddolwyr yn disodli aelodau o staff cyflogedig; byddant yn gweithio ochr yn ochr â’r cleifion i ddarparu cymorth ychwanegol gyda'r nod o wella’r gwasanaethau rydym yn eu cyflenwi.”

Mae Bydis Tec wedi bod yn helpu cleifion, ar draws amrediad o wahanol gwasanaethau, i gael mynediad i glinigau rhithwir trwy apwyntiadau Attend Anywhere yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae’r rhain wedi caniatáu iddynt gysylltu â staff gofal iechyd trwy alwad fideo gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar, yn lle cyfarfod wyneb-yn-wyneb.

Roedd y tîm iechyd meddwl cymunedol yn Aberhonddu yn llwyddiannus yn eu hymgais i wneud cais am grant o £1,500 grant gan elusen Cronfa Ymateb COVID Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a fydd yn cael ei wario ar ardd synhwyraidd newydd yn Nhŷ Illtyd. Mae NHS Charities Together, gan gynnwys ymdrechion anhygoel y Capten Syr Tom Moore, yn apêl codi arian sydd wedi helpu tuag at hyn.

Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y dasg o greu a chynnal yr ardd newydd, fel bod modd i staff a chleifion ddod allan i’r awyr agored unwaith eto a  chael budd o hynny.

Gellir darganfod cyfleoedd i wirfoddoli gyda PTHB a sawl sefydliad arall ym Mhowys ar wefan gwirfoddoli Cymru: volunteering-wales.net/

Mae cymorth a chefnogaeth i gofrestru fel gwirfoddolwr ar gael gan PAVO. Anfonwch e-bost at volunteering@pavo.org.uk neu ffoniwch 01597 822191.

PAVO yw’r sefydliad i fynd ato os ydych chi’n chwilio am ffordd o recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer eich sefydliad chi neu yn eich cymuned chi, neu os ydych am gael help ar gyfer eich grŵp gwirfoddol neu’ch sefydliad.

Rhannu:
Cyswllt: