Mae ein Sesiwn Holi ac Ateb cyhoeddus diweddaraf gyda Carol Shillabeer bellach ar gael i'w gwylio ar-lein. Roedd y sesiwn briffio ar 12 Ionawr 2023 yn canolbwyntio ar y thema "diolch" ac mae ar gael i'w wylio yn https://youtu.be/8ORF4rQgYYg
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal sesiynau holi ac ateb cyhoeddus rheolaidd gyda Carol Shillabeer ac uwch glinigwyr a rheolwyr eraill. Mae'r rhain yn gyfle i rannu diweddariadau ac i ateb cwestiynau gan y cyhoedd.
Cynhaliwyd ein sesiwn ddiweddaraf ar 12 Ionawr ac mae ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube yn https://youtu.be/8ORF4rQgYYg. Roedd y briff yn canolbwyntio ar neges syml "diolch":
- diolch am eich amynedd wrth i ni brofi pwysau digynsail ar y system iechyd a gofal
- diolch am gael eich brechu’r gaeaf hwn
- diolch am eich caredigrwydd, a gofyn i bobl i fod yn garedig tuag at staff a gwirfoddolwyr iechyd a gofal
- diolch am Ddiogelu Powys, gan gynnwys gwisgo masgiau mewn lleoliadau gofal iechyd a chymryd camau i atal lledaeniad y ffliw a COVID
- diolch am helpu eich gilydd trwy'r argyfwng costau byw ac am gymorth gofalwyr, gwirfoddolwyr a chyfeillion - a pheidiwch ag anghofio enwebu pobl ar gyfer Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys
- diolch am ddweud eich dweud ac atgoffa pobl am yr ymgynghoriad a'r gwaith ymgysylltu presennol gan gynnwys Gwasanaethau Cochlear yn ne Cymru a'r cais i gau Meddygfa Gilwern
- diolch i’r GIG a’r holl staff yn ogystal â’r gwaith o chwilio am syniadau ar gyfer dathliadau GIG75
Mae'r fideo o'r digwyddiad ar gael i'w wylio isod. Rydym yn gobeithio cynnal ein sesiwn briffio nesaf ar 9 Mawrth 2023. Cadwch lygad am fwy o fanylion yn fuan.