Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch Ni i'ch Helpu Chi – defnyddiwch eich meddyg teulu dim ond pan fydd gwir angen i chi wneud hynny.

Mae meddygon teulu ym Mhowys, ynghyd â meddygon teulu ledled Cymru a gweddill y DU yn parhau i fod dan bwysau eithriadol ac mae angen eich help arnynt i sicrhau eu bod yn gallu helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Nid oes angen i gleifion weld meddyg teulu bob amser i gael yr help sydd ei angen arnynt. Mae llawer o ffynonellau cymorth eraill o fewn tîm y practis, gan gynnwys Nyrsys Practis, ymarferwyr uwch, Fferyllwyr ac eraill.

Ers dechrau COVID, rydym hefyd wedi gweld nad oes angen i ni weld y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn wyneb yn wyneb bob amser. Does dim ots pwy welwch chi, mae ymgynghoriadau dros y ffôn a thros fideo wedi profi'n hynod effeithiol ac mae nifer o fanteision pwysig ynghlwm â hyn gan gynnwys:

  • Gellir cynnal mwy o ymgynghoriadau
  • Does dim rhaid i gleifion deithio
  • Mae'r risg o ledaenu haint yn lleihau'n aruthrol

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yr wythnos diwethaf fod yr ymgynghoriadau o bell yma i aros, gan alluogi meddygon teulu i ganolbwyntio ar sicrhau ymgynghoriadau wyneb yn wyneb i’r cleifion sydd wir eu hangen.

Cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol

Mae’r dewisiadau eraill yn lle eich meddyg teulu yn cynnwys:

  • Fferyllwyr – gall eich fferyllydd stryd fawr helpu gyda llawer o fân afiechydon ac anhwylderau a does dim angen apwyntiad arnoch.
  • Ffisiotherapyddion – oeddech chi'n gwybod y gallwch chi hunangyfeirio at wasanaethau ffisiotherapi ym Mhowys? Ewch i'n gwefan https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-ffisiotherapi/ neu ffoniwch eich ysbyty lleol am fanylion.
  • Therapyddion Galwedigaethol – gallwch hefyd hunangyfeirio at Therapi Galwedigaethol. Ffoniwch eich ysbyty lleol am fanylion
  • Nyrs Practis ac Ymarferwyr Uwch – Os byddwch yn ffonio eich meddyg teulu bydd eich anghenion yn cael eu hasesu ac efallai mai Nyrs Practis neu Ymarferydd Uwch yw'r person gorau i'ch helpu. Maent wedi'u hyfforddi'n dda ac yn gallu cefnogi cleifion ag ystod eang o anghenion.

 

Pigiadau atgyfnerthu brechlyn COVID

Dechreuwyd cyflwyno pigiadau atgyfnerthu brechlyn COVID ym Mhowys dros y penwythnos ac mae gwahoddiadau ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu yn cael eu hanfon gan y bwrdd iechyd i'r grwpiau blaenoriaeth cymwys nawr. Nid yw'r rhan fwyaf o feddygon teulu yn gallu archebu'r brechlyn atgyfnerthu hyn ac felly gofynnwn yn garedig i chi beidio â chysylltu â'ch meddyg teulu ynghylch y brechlyn COVID oni bai eu bod wedi gofyn yn benodol i chi wneud hynny, gan fod angen iddynt gadw eu llinellau ffôn yn glir ar gyfer cleifion sydd angen eu gwasanaethau.

Llinellau ffôn prysur

Ar hyn o bryd mae’r llinellau ffôn yn cael eu llethu gan alwadau sy'n golygu bod y rhai sydd wir angen mynd drwodd yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny. Hoffem eich sicrhau nad yw llinellau'n ddiffygiol a bydd y ffôn yn cael ei ateb. Peidiwch â mynd i’r feddygfa heb apwyntiad.

Trin pobl â pharch

Gwyddom y gall fod yn rhwystredig ar adegau os bydd hi’n cymryd ychydig o amser i ateb y ffonau, yn y GIG ac mewn sefyllfaoedd eraill. Ond fe ddylech drin pawb â pharch; maen nhw’n gwneud eu gorau i'ch helpu chi a phawb arall. Mae gan y GIG bolisi dim goddefgarwch i ran ymddygiad ymosodol.

Rhannu:
Cyswllt: