Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddwch fel nyrs heb orfod gadael Powys a chael eich talu ar yr un pryd

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch o fod wedi partneru â Phrifysgol Bangor a Choleg Llandrillo i gynnig rhaglen radd nyrsio o bell, i'w chwblhau tra hefyd yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn y bwrdd iechyd.

Mae cyfuno dysgu o bell gyda phrofiad gwaith ym Mhowys yn golygu y gallwch hyfforddi i fod yn nyrs gymwys mewn tair blynedd yn unig, heb adael eich cartref. Gan y byddwch yn gweithio yn y bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod hwn, byddwch hefyd yn cael cyflog llawn amser a bydd eich costau prifysgol yn cael eu talu hefyd.

Ar hyn o bryd mae'r Rhaglen Darpar Nyrsys ar agor i unrhyw un o drigolion Powys sy'n dymuno cychwyn ar yrfa nyrsio. Nid oes terfyn oedran ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Trwy gydol eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn derbyn un diwrnod yr wythnos o astudiaeth academaidd a gyflwynir yn rhithwir (ar-lein) gan Goleg Llandrillo. Bydd y 4 diwrnod sy'n weddill yn cael ei dreulio'n gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd mewn lleoliad clinigol, lle byddwch yn parhau i dderbyn rhaglen waith gefnogol i helpu cyflawni'r cymwysterau nyrsio gofynnol. 

Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch yn cael eich rhyddhau'n llawn amser o'ch dyletswyddau fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, i ymgymryd â gweddill camau eich gradd, gan astudio'n rhithwir gyda Phrifysgol Bangor. Gyda'r model dysgu gwasgaredig hwn, nid yn unig y bydd eich lleoliadau clinigol cael eu cynnal ym Mhowys ond bydd rhywfaint o'ch dysgu academaidd hefyd, gyda chyfleoedd rheolaidd i gwrdd â thiwtoriaid wyneb yn wyneb, yn digwydd mewn canolfan ddysgu ym Mhowys megis ein Hacademi Iechyd a Gofal sydd newydd ei hadnewyddu. 

Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud cais ymweld â Swyddi Cyfredol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Cyhoeddwyd: 06/07/2023

Rhannu:
Cyswllt: