Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr Claf i'w ddosbarthu i drigolion ardal Gilwern

Yn gynharach eleni, ymgymerodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys â chyfnod o ymgysylltu yn dilyn cais gan Bractis Grŵp Crucywel i gau eu cangen o feddygfa yng Ngilwern. Ar ôl ystyried yr adborth ymgysylltu yn ymwybodol, cytunodd y bwrdd iechyd nad oedd unrhyw ddewisiadau ymarferol eraill wedi'u nodi a derbyniodd y cais i gau'r feddygfa gangen.

Bydd Meddygfa Cangen Belmont yng Ngilwern yn cau o 30 Tachwedd 2023. Mae Practis Grŵp Crucywel yn ysgrifennu at eu cleifion cofrestredig sy’n byw yn Sir Fynwy i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y camau nesaf i roi sicrwydd i gleifion y byddant yn parhau i fod wedi’u cofrestru gyda Phractis Grŵp Crucywel, oni bai eu bod yn dewis fel arall, a byddant yn parhau i gynnig eu hystod lawn o wasanaethau gofal sylfaenol i gleifion, gydag apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Iechyd y Gofeb Ryfel yng Nghrucywel.

Mae'r llythyr hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ystod o wasanaethau iechyd a chymorth eraill, ac yn hysbysu trigolion am ddigwyddiad lles a gwybodaeth cymunedol a gynhelir ddydd Iau 2 Tachwedd 2023 yng Nghanolfan Gymunedol Gilwern rhwng 3:30pm a 7pm i'ch helpu i ddarganfod mwy am adnoddau a gwasanaethau lleol a all gefnogi eich iechyd a lles. Digwyddiad galw heibio yw hwn ac nid oes angen archebu lle.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael o adran Meddygfa Cangen Belmont ar ein gwefan .


Annwyl Glaf,

Ysgrifennwyd y llythyr hwn ar y cyd â Phractis Grŵp Crucywel, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Sir Fynwy a mewnbwn gan Llais – eiriolwyr dros a chefnogi llais cleifion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.   

Rydych chi'n derbyn y llythyr hwn gan fod eich cyfeiriad wedi’i nodi gyda chofrestriad claf ym Mhractis Grŵp Crucywel. A fyddech cystal â rhannu’r cynnwys â holl aelodau'r cartref sydd wedi'u cofrestru gyda’r Practis.
 
Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol, yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd yn gynharach eleni, gwnaed y penderfyniad i gau safle Cangen Belmont yng Ngilwern yn barhaol o’r 30ain Tachwedd 2023.  

Rydym yn gwybod nad dyma beth yr oedd llawer ohonoch wedi gobeithio amdano, ac mae'n ddrwg gennym roi gwybod i chi bydd y feddygfa yn cau. Hoffem ailadrodd ni chafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn ysgafn a'i bod yn angenrheidiol cefnogi dyfodol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer yr holl gleifion a wasanaethir gan Bractis Grŵp Crucywel. 
 
Hoffem gadarnhau bydd eich cofrestriad chi yn parhau gyda Phractis Grŵp Crucywel oni bai eich bod yn dewis fel arall, a byddwn yn parhau i gynnig ein hystod lawn o wasanaethau gofal sylfaenol i chi, gydag apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Iechyd Coffa Rhyfel yng Nghrucywel.
 
Gobeithiwn fod y daflen wybodaeth atodedig yn ateb y prif gwestiynau sydd gennych am y newidiadau sy'n digwydd o’r 30ain Tachwedd 2023 a sut rydym yn gweithio i liniaru pryderon a fynegwyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu eich Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Bydd digwyddiad lles a gwybodaeth gymunedol yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 2il Tachwedd yng Nghanolfan Gymunedol Gilwern o 3:30yb i 7yh i'ch helpu darganfod mwy am adnoddau a gwasanaethau lleol a all gefnogi eich iechyd a'ch lles. Mae croeso cynnes i bawb. Bydd yn ddigwyddiad galw heibio, felly mae croeso i chi fynychu heb fod angen i chi drefnu ymlaen llaw gyda ni. Mae croeso i chi rannu gwybodaeth am y digwyddiad hwn ag eraill yng nghymuned Gilwern.


Yr eiddoch yn gywir


Pryd fydd y newidiadau hyn yn digwydd?
Bydd Meddygfa Cangen Belmont yng Ngilwern yn cau o’r 30ain Tachwedd 2023.
 
Pa gamau sydd angen i mi eu cymryd?
Does dim rhaid i chi wneud dim byd. Bydd cofrestriad pob claf yn parhau gyda Phractis Grŵp Crucywel oni bai eich bod yn dewis fel arall, a byddwn yn parhau i gynnig ein hystod lawn o wasanaethau gofal sylfaenol i chi. O’r 30ain Tachwedd 2023 bydd pob apwyntiad wyneb yn wyneb yn digwydd yng Nghanolfan Iechyd Coffa Rhyfel yng Nghrucywel neu drwy ymweliad cartref pan fo'n briodol yn glinigol. 
 
Pa wasanaethau ydych chi'n eu cynnig ar-lein a dros y ffôn?
Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau dros y ffôn ar 01873 810255, gan leihau'r angen i ymweld â'r practis yn bersonol. Gan ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn, gallwn drefnu apwyntiadau ac ymateb i ymholiadau cyffredinol. Bydd apwyntiadau dros y ffôn yn parhau i gael eu cynnig lle bo'n briodol, ac mae gan y practis nifer o slotiau apwyntiad dros y ffôn ar gael bob dydd. Rydym hefyd yn gweithredu gwasanaeth 'galw yn ôl' os yw'r llinellau ffôn yn brysur. 
 
Mae'r practis yn cynnig ystod gynyddol o wasanaethau trwy ein gwefan a gobeithiwn y bydd llawer ohonoch yn gallu ymweld â nhw os oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd. Y cyfeiriad yw: www.crickhowellhealthcentre.org.uk. Gallwch ychwanegu cyfeiriad ein gwefan at eich ffefrynnau neu lwybrau byr fel y gallwch gael mynediad i'n gwasanaethau'n gyflym pan fydd eu hangen arnoch. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael ar ein gwefan yn cynnwys:
•    Cyngor hunangymorth
•    Cyngor ar sut i drefnu apwyntiad
•    Gofyn am feddyginiaethau rheolaidd
•    Ceisiadau i gydamseru meddyginiaeth
•    Gofyn am gyngor ar feddyginiaeth
•    Cofrestriadau cleifion newydd
•    Cofrestru gofalwr
•    Gofyn am adroddiad meddygol
•    Cais Gwrthrych Am Wybodaeth
•    Gofyn cwestiwn i'r dderbynfa
•    Newid manylion personol
•    Cyflwyno adborth a chwynion
•    Gwasanaethau cymorth lles
•    Holiaduron rheoli clefydau cronig.
 
Fodd bynnag, hoffem hefyd gadarnhau y byddwch yn parhau i gael eich gwahodd i'r practis ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb, a bydd ymweliadau cartref yn parhau pan fo'n briodol yn glinigol. 
 
Hefyd, pan fydd y feddygfa ar gau gallwch gael cyngor iechyd brys gan gynnwys gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau drwy gysylltu â GIG 111 Cymru.  Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 111, neu drwy ffonio 18001 111 o'ch ffôn testun neu drwy ddefnyddio ap Relay UK os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes gennych amhariad ar eich lleferydd. Mae ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol ar gael o'u gwefan yn www.111.wales.nhs.uk
  
Ydych chi'n defnyddio ap GIG Cymru?
Mae nifer fach o bractisau ar draws Cymru wedi bod yn rhan o dreialu ap newydd gan GIG Cymru. Nid ydym yn rhan o Ap GIG Cymru eto, ond rydym yn archwilio opsiynau i ddod yn un o’r bobl gyntaf i gynnal yr ap pan fydd yn barod. Bydd hyn yn cynnig opsiwn arall i gael mynediad i'n gwasanaethau wrth symud ymlaen.
  
Pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer teithio a thrafnidiaeth?
Rydym yn gwybod y gall trafnidiaeth fod yn bryder i rai cleifion. Os ydych chi'n cael trafferth gyda chludiant i Grucywel, mae sawl opsiwn ar gael i chi fel a ganlyn:

  • Trafnidiaeth Gymunedol Grass Routes (ar gyfer pobl sy'n byw yn Sir Fynwy): Mae cynllun Cyngor Sir Fynwy yn gwneud teithiau o ddrws i ddrws ar gais, yn ystod yr wythnos rhwng 9am a 2pm. Mae'n darparu cludiant llawr isel, cwbl hygyrch ar sail aelodaeth. Mae gostyngiadau ar gael. Am ragor o wybodaeth: 
    Ffoniwch: 0800 085 8015 
    E-bostiwch: contact@monmouthshire.gov.uk
    Gwefan: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/bysiau-a-threnau/cynllun-cludiant-cymunedol-grass-routes/  
  • Cynllun Ceir Cymunedol Crucywel: Mae'r Cynllun Ceir Cymunedol yn wasanaeth i'r rhai nad oes ganddynt gludiant i fodloni eu hanghenion hanfodol. Codir tâl aelodaeth o £10 y flwyddyn ac yna codir tâl ar deithiau o 45c y filltir. Os ydych yn mynychu apwyntiad ysbyty a'ch bod yn derbyn unrhyw fudd-daliadau efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliadau'r daith. Ffoniwch am fwy o fanylion. Mae anghenion hanfodol yn amrywio, ond enghreifftiau ohonynt yw teithiau meddygol, teithio i ganolfannau dydd neu glybiau, ac ymweld â'r ysbyty. Os ydych chi'n teimlo eich bod yn diwallu'r anghenion hanfodol ac y gallech elwa o'r Cynllun Car, ffoniwch: 
    Ffoniwch: 01873 812177 (Canolfan Gwirfoddolwyr Crucywel)
  • Dial-a-Ride Crucywel: Mae hwn yn cynnig cludiant syth i’r drws sy'n hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu sy'n cael anawsterau wrth ddefnyddio grisiau.  Mae hwn yn gynllun sy’n seiliedig ar aelodaeth i bobl hŷn neu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio dulliau teithio presennol oherwydd anabledd. Mae'n gweithredu rhwng 9yb a 5yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Am ragor o wybodaeth:
    Ffoniwch: 01873 811097 
    E-bostiwch: office@brecondialaride.org
  • Cynllun Ceir Cymunedol Bridges: Mae Cynllun Car Cymunedol Bridges wedi'i leoli yn Nhrefynwy ac mae'n gweithredu ledled y sir. Mae'n cael ei gefnogi gan yrwyr gwirfoddol sy'n defnyddio eu ceir eu hunain i gynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws i bobl sydd angen cymorth ychwanegol gyda thrafnidiaeth. Mae'r Cynllun yn boblogaidd iawn felly ar hyn o bryd mae ganddo gapasiti cyfyngedig yn yr ardal hon ond mae'n gobeithio recriwtio mwy o yrwyr y flwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth am eu cynlluniau ar gyfer 2024:
    Ffoniwch: 01600 228787 
    E-bostiwch: carscheme@bridges.org.uk 

Ydyn ni dal yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn Fferyllfa John Williams yng Ngilwern?
Ydych. Bydd amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd ychwanegol yng Ngilwern yn parhau trwy'r fferyllfa gymunedol. Mae eu gwasanaethau'n cynnwys y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin sy'n rhoi mynediad am ddim i driniaeth y GIG ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin, o lwnc tost i heintiau ar y llygaid heb fod angen presgripsiwn. Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin ar gael o'r fferyllfa neu ar-lein yn: www.111.wales.nhs.uk/localservices/pharmacyfaq/  
 
Mae'r fferyllfa hefyd yn darparu cyflenwad meddyginiaeth brys, gwasanaethau atal cenhedlu, brechiad ffliw, cofnodion gweinyddu meddyginiaethau, adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau, defnyddio cyffuriau dan oruchwyliaeth, rhoi'r gorau i ysmygu, cyflenwad batri cymorth clyw’r GIG, a'r cynllun lleihau gwastraff. Cysylltwch â nhw am fwy o wybodaeth. Bydd y practis yn parhau i weithio'n agos gyda'r fferyllfa i sicrhau y bydd yr holl feddyginiaethau y gofynnir amdanynt ar gael i'w casglu yn y fferyllfa.
 

Pa wasanaethau iechyd a lles eraill sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn ardal Gilwern?
Yn ogystal â pharhau i gael mynediad at wasanaethau gan Bractis Grŵp Crucywel mae amrywiaeth o gymorth ar gael i Blant a Phobl Ifanc yn ardal Gilwern. Ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth a chyngor yw gwefan Iachach Gyda'n Gilydd yn https://abbhealthiertogether.cymru.nhs.uk/
Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r gwasanaeth nyrsio ysgolion lleol i sicrhau bod gwybodaeth am y Practis a'n gwasanaethau yn cael eu hyrwyddo mewn ysgolion lleol. Mae Sgwrs Iechyd yn ffordd gyfrinachol a dienw i blant 11–19 oed geisio cymorth iechyd emosiynol a/neu gorfforol trwy Nyrs Ysgol gymwysedig dros neges destun SMS: 07312 263262. Ewch i https://chathealth.nhs.uk/ 

Pa wasanaethau iechyd a lles eraill sydd ar gael i oedolion/pobl hŷn yn ardal Gilwern?
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau yn Sir Fynwy ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn https://bipab.gig.cymru/.  Mae Melo Cymru - Adnoddau Iechyd Meddwl a Lles, Cyrsiau a Chymorth yn adnodd da arall: https://www.melo.cymru/cy/ 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n dymuno newid practis? 
Bydd cofrestriad pob claf yn parhau i fod gyda Phractis Grŵp Crucywel oni bai eich bod yn dewis fel arall. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i chi ac yn gobeithio y byddwch yn dewis cadw eich cofrestriad gyda ni. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni i drafod unrhyw bryderon sydd gennych. Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu atom yng Nghanolfan Iechyd Goffa Rhyfel Stryd Beaufort, Crucywel NP8 1AG; drwy ffonio 01873 810255 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen adborth ar-lein ar www.crickhowellhealthcentre.org.uk/navigator/feedback/ 

Os hoffech ystyried cofrestru gyda phractis amgen, gallwch ddod o hyd i fanylion meddygfeydd lleol drwy nodi eich cod post yn: https://bipab.gig.cymru/gwasanaethau-gofal-iechyd/meddygon-teulu-deintyddion-ac-ati/meddygon-teulu/ NEU gallwch gysylltu â Thîm Gofal Sylfaenol BIPAB ar 01495 241246 a all eich cynorthwyo ymhellach.

Sut ydw i'n rhoi adborth? 

Nod y tîm yma ym Mhractis Grŵp Crucywel yw cynnig gwasanaeth o safon uchel i'n cleifion ac yn gobeithio na fydd gennych chi achos i gwyno byth. Fodd bynnag, os oes achlysuron lle rydych yn teimlo bod angen i chi wneud cwyn, cysylltwch â'r Rheolwr Practis neu ei ddirprwy.

Rydym yn gobeithio eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn codi pryderon yn uniongyrchol gyda ni, ond gall Tîm Profiad Cleifion Bwrdd Iechyd Addysgu Powys hefyd eich cynorthwyo i godi pryderon. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://biap.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/adborth-a-chwynion/ 

Gwybodaeth Ychwanegol: Llais y Claf - Gwybodaeth am Llais

Mae Llais, Corff Llais y Dinesydd ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, yn darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, rhad ac am ddim dan arweiniad cleientiaid sy'n ymdrin â phob agwedd ar driniaeth a gofal y GIG, yn ogystal â gofal cymdeithasol. Mae mwy o wybodaeth am Llais ar gael yn https://www.llaiscymru.org/ neu drwy gysylltu â 01874 624206.

Rhannu:
Cyswllt: