Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi diweddariad pwysig ar gyllid y sector cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad pwysig ar gyllid y sector cyhoeddus:

Cyfarfu’r Cabinet ar 1 Awst i drafod y pwysau ariannol sylweddol yr ydym yn eu hwynebu yng nghyllideb 2024-25, ac i barhau â’r paratoadau ar gyfer cylch cyllidebol 2024-25.

Wrth baratoi ein cyllideb ar gyfer 2023-24, fe wnaethom dynnu ar yr holl adnoddau sydd ar gael inni er mwyn diogelu gwasanaethau rheng flaen a darparu cymorth costau byw a dargedir ar gyfer unigolion a’r economi.

Ond hyd yn oed ar ôl gwneud hyn i gyd, roedd ein sefyllfa ariannol, wedi Cyllideb y Gwanwyn y DU ym mis Mawrth, hyd at £900m yn is mewn termau real na phan bennwyd y gyllideb honno gan Lywodraeth y DU ar adeg yr adolygiad o wariant diwethaf yn 2021.

Dyma’r sefyllfa ariannol fwyaf heriol yr ydym wedi ei hwynebu ers datganoli.

Rydym yn y sefyllfa hon o ganlyniad i weld y lefelau uchaf o chwyddiant erioed ar ôl y pandemig; ac oherwydd bod yr economi a chyllid cyhoeddus wedi cael eu camreoli gan lywodraethau olynol y DU yn ystod y 13 o flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’r ymrwymiadau a wnaed heb iddynt gael eu hariannu gan Lywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â chyflogau yn y sector cyhoeddus.

Bydd y Cabinet yn gweithio dros yr haf i liniaru’r pwysau cyllidebol hyn yn seiliedig ar ein hegwyddorion, gan gynnwys diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, cyn belled â phosibl, a thargedu cymorth tuag at y rheini sydd â’r angen mwyaf. Rhoddir diweddariad pellach i’r Senedd unwaith bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.

Y Prif Weinidog Mark Drakeford AS

Ffynhonnell: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddariad-ar-y-gyllideb-2023-24

Newyddion 10 Awst 2023

Rhannu:
Cyswllt: