Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ailgyflwyno masgiau mewn ardaloedd clinigol i gleifion, ymwelwyr a staff

Cynnydd yn nifer heintiau COVID-19 yn y gymuned yn ysgogi penderfyniad y bwrdd iechyd.

Wrth i nifer achosion haint COVID-19 barhau i gynyddu, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cyflwyno polisi lleol i atal a rheoli’r haint er mwyn lleihau lledaeniad y feirws.

Dywedodd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio’r bwrdd iechyd: “Mae diogelwch cleifion a staff yn flaenoriaeth i ni, felly rydym yn annog holl gleifion ac ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i barhau i olchi eu dwylo’n aml, ac i gadw pellter cymdeithasol wrth ymweld â’n safleoedd.

"Bydd pob aelod o staff sy'n gweithio mewn meysydd clinigol mewn rolau sy'n delio â chleifion hefyd yn gwisgo masgiau wyneb ac yn parhau â mesurau eraill i atal a rheoli’r haint. Bydd hyn yn helpu cadw ein cleifion, ymwelwyr ac aelodau o staff mor ddiogel â phosibl rhag lledaeniad posibl COVID-19.”

Bydd y polisi newydd yn berthnasol i holl gleifion mewnol, y rhai sy’n mynychu clinigau claf allanol neu’n cael triniaeth, a’r rhai sy’n mynychu lleoliadau gofal sylfaenol megis Meddygfeydd, Unedau Mân Anafiadau, neu’n Canolfannau Geni.

Fel mesur amddiffynnol arall, bydd pob aelod o'r timau nyrsio cymunedol ac ymwelwyr iechyd sy'n ymweld â chleifion yn eu cartrefi personol neu fannau preswylio, hefyd yn gwisgo masgiau wyneb ac yn dilyn mesurau eraill i atal a rheoli’r haint.

"Mae'r mesurau hyn yn ychwanegol at apêl y bwrdd iechyd i aelodau o'r cyhoedd i barhau i fod yn ymwybodol o'r haint," meddai Claire Roche.

"Gofynnwn i chi beidio â mynd i mewn i unrhyw un o'n safleoedd os ydych yn teimlo'n sâl, os oes gennych symptomau sy'n gysylltiedig ag unrhyw haint anadlol fel COVID-19 a'r ffliw, neu os ydych yn profi symptomau tebyg i annwyd, dolur rhydd a chwydu, twymyn neu os oes gennych frech. Yn yr achos hwn, ffoniwch GIG 111 Cymru neu ceisiwch gyngor gan eich Meddyg Teulu. Os ydych chi'n sâl iawn, ffoniwch 999 bob tro.

"Byddwn yn adolygu ein canllawiau pan fydd lefelau’r haint yn y gymuned yn gostwng ac mae'n briodol gwneud hynny." meddai.

Rhannu:
Cyswllt: