Neidio i'r prif gynnwy

Mae Capasiti Profi COVID-19 ychwanegol yn cael ei roi ar waith ym Mhowys yn y cyfnod cyn y Nadolig

Yr wythnos hon bydd ehangu mewn profion cyhoeddus COVID-19 ym Mhowys yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Bydd uned brofi'r Drenewydd yn adleoli yn y dref, a bydd dwy uned profi symudol dros dro newydd yn agor yn Llanidloes ac Ystradgynlais. Mae hyn yn ychwanegol at y cyfleusterau yn Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt.

Ar ddydd Mercher 9 Rhagfyr bydd yr uned brofi yn y Drenewydd yn symud o Theatr Hafren i Faes Parcio Stryd Shortbridge ger Canol y Dref. Bydd yr uned sydd wedi'i hadleoli yn gallu cynnig apwyntiadau cerdded i fyny yn ogystal â gyrru i fyny. Bydd uned dros dro newydd hefyd yn agor yn Llanidloes ar ddydd Mercher 9 Rhagfyr.

Yna ar ddydd Gwener 11 Rhagfyr, bydd yr uned brofi yn Aberhonddu hefyd yn cael ei hehangu i gynnig apwyntiadau cerdded i fyny yn ogystal ag apwyntiadau gyrru i fyny. A bydd uned dros dro newydd yn agor yn Ystradgynlais ddydd Gwener 11 Rhagfyr.

Mae'r holl unedau profi ar gael trwy apwyntiad yn unig ar gyfer pobl â symptomau:

  • Peswch parhaus newydd
  • Tymheredd uchel (twymyn)
  • Colled neu newid i arogl neu flas

Gellir bwcio apwyntiad yn yr unedau yn Aberhonddu, Llanidloes, y Drenewydd ac Ystradgynlais trwy borth bwcio cenedlaethol Llywodraeth y DU:

Profi Lleol yn Llanfair-ym-muallt

Ochr yn ochr â'r pedair uned hyn sy'n rhan o'r rhaglen brofi genedlaethol ledled y DU, rydym hefyd yn gweithredu uned brofi leol yn Llanfair-ym-muallt.

Mae'n uned brofi leol hefyd ar gael trwy apwyntiad ar gyfer pobl â symptomau:

Mae mwy o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan drwy https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Gyda'r Nadolig ar y gorwel mae'n hanfodol bod pawb yn dilyn y canllawiau cenedlaethol newydd a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr:

  • Cyfyngu ar nifer y gwahanol bobl rydyn ni'n treulio amser gyda.
  • Cyfyngu ar y nifer o weithiau rydyn ni'n gadael adref.
  • Cyfyngu ar deithio cymaint â phosib.
  • Gweithio gartref os gallwn.
  • Cadwch bellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo'n rheolaidd a gwisgwch fwgwd yn ôl yr angen.

Mae mwy o wybodaeth am bolisi ac arweiniad coronafeirws yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diogelu Cymru gyda'n gilydd

Rhannu:
Cyswllt: