Neidio i'r prif gynnwy

Mae contract newydd wedi'i ddyfarnu ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG yn Llandrindod.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod contract newydd wedi’i ddyfarnu ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG yn Llandrindod.

Maen nhw'n cymryd drosodd hen safle MyDentist ac yn bwriadu dechrau cynnig gwasanaeth deintyddol estynedig gan y GIG o fis Rhagfyr 2022.

Mae apwyntiadau deintyddol y GIG yn cael eu cynnig fel a ganlyn:

  • Bydd y practis yn cysylltu â phobl a oedd yn derbyn gwasanaethau deintyddol y GIG gan y cyn bractis MyDentist yn Llandrindod dros y ddwy flynedd ddiwethaf i drefnu apwyntiad.
  • Bydd y bobl yn ardal Llandrindod sydd heb ddeintydd yn y GIG ac sydd wedi cysylltu â Llinell Gymorth Ddeintyddol Powys (01686 252 808) yn derbyn apwyntiad - Peidiwch â chysylltu â'r ddeintyddfa yn uniongyrchol ar gyfer apwyntiadau.

Ymddiheuriadau gwresog bod rhestr aros ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG yn yr ardal ar hyn o bryd a bydd yn cymryd peth amser i gynnig apwyntiadau i bawb ar y rhestr aros bresennol.

Pwy ydw i'n cysylltu os oes angen deintydd y GIG arnaf?

Os ydych chi'n byw ym Mhowys, neu os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys, ac mae angen help arnoch chi i ddod o hyd i Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252 808.

Mae ein staff ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu’r llinell gymorth ddeintyddol yn profi cam-drin geiriol ar adegau. Byddem yn annog unrhyw un sy'n galw'r llinell gymorth i fod yn garedig gan fod y tîm yn gweithio'n galed iawn i ddelio gyda'ch ymholiadau.

Pwy ydw i'n cysylltu ag os oes gen i argyfwng deintyddol?

Os oes gennych argyfwng deintyddol ac nid oes gennych Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch GIG 111. Byddant yn asesu'ch cyflwr ac, os yw’n briodol, rhoi cod i chi er mwyn eich cyfeirio at wasanaeth deintyddol brys lleol.

Os oes gennych boen yn eich dant neu faterion deintyddol eraill gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i reoli eich cyflwr ar wefan GIG 111 Cymru yn www.111.wales.nhs.uk

 

Cyhoeddwyd: 28/11/22

Rhannu:
Cyswllt: