Mae ein cylchlythyr Hydref 2022 ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi bellach ar gael o'n gwefan yn biap.gig.cymru/bro-ddyfi.
Nawr bod y prif waith adeiladu bron a chwblhau, mae tîm Willmott Dixon yn parhau i ddatblygu'r dyluniad mewnol. Mae'r gosodiad Mecanyddol a Thrydanol (M&E) ac addurn mewnol yn symud ymlaen yn dda gyda lloriau yn cael eu gosod yn ystod mis Hydref.
Yn allanol, mae'r gwaith i'r gorchudd / soffit y perimedr ar y gweill gyda gwelliannau allanol pellach gan gynnwys rendro'r wedd flaen ar y maes maes parcio yn dechrau'r mis hwn.
Y mis hwn mae gennym god QR newydd ar gyfer y prosiect. Sganiwch y cod gan ddefnyddio camer ar unrhyw ddyfais symudol i gael mynediad ar y model 'Matterport' diweddaraf. Mae'r model yn caniatáu i chi fynd am dro 360° drwy'r safle a gweld yr holl gynnydd adeiladu diweddaraf. Mae hwn yn gyfnod cyffrous o'r gwaith gan ei fod yn adlewyrchu nifer y dyddiau cyn i ni agor y cyfleuster yn nechrau2023.
Darllenwch y cylchlythyr llawn ar ein gwefan yn biap.gig.cymru/bro-ddyfi.
Cyhoeddwyd: 31/10/22