Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth GIG newydd yn galluogi pobl i gofrestru fel bod modd cysylltu â nhw ar gyfer astudiaethau brechlyn COVID-19

Mae gwasanaeth GIG newydd wedi’i lansio heddiw (20 Gorffennaf), i helpu pobl ledled y DU i gofrestru am wybodaeth ynglŷn â’r treialon brechlyn COVID-19 newydd.

Bydd cofrestrfa ymchwil brechlyn Covid-19 y GIG yn helpu i recriwtio llawer o bobl dros y misoedd nesaf i’r treialon hyn, a allai arwain at ddarganfod brechlyn effeithiol yn erbyn y coronafeirws a threfnu ei fod ar gael i’r cyhoedd yn y DU yn gynt. Mae’r gofrestrfa wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), NHS Digital a Llywodraethau Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban fel rhan o brosiect Tasglu Brechlyn Llywodraeth y DU.

Mae nifer o frechlynnau wedi’u nodi ac yn destun profion diogelwch ar hyn o bryd, ond dim ond treialon ar raddfa fawr sy’n gallu rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r gwyddonwyr ynglŷn â pha mor effeithiol ydyn nhw. Nod NIHR, gan weithio gyda’r GIG ledled y DU, ydy recriwtio dros hanner miliwn o bobl i’r gofrestrfa, a fydd yn caniatáu cysylltu pobl â’r treialon brechlyn yn y misoedd sydd i ddod.

Mae ymchwilwyr yn edrych am bobl o bob cefndir, oedran a rhan o’r DU, gan gynnwys pobl sydd â chyflyrau iechyd eisoes yn bodoli a rhai sydd heb, i gymryd rhan yn yr astudiaethau brechlyn, er mwyn gwneud yn siŵr y bydd unrhyw frechlyn a ddatblygir yn gweithio i bawb.

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i’n falch bod Cymru yn rhan o’r gofrestrfa ar-lein DU-eang yma, a fydd yn offeryn hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

“Byddwn ni’n gofyn i bobl yng Nghymru a ledled y DU roi eu caniatâd i bobl gysylltu â nhw ynglŷn â chymryd rhan mewn treialon COVID-19 arloesol i helpu i chwilio am frechlyn yn erbyn y clefyd.

“Wrth i dreialon brechlyn ar raddfa fawr gael eu rhoi ar waith yn yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, bydd y system newydd yma’n caniatáu i ymchwilwyr nodi a chyfateb gwirfoddolwyr addas ac awyddus â’r treialon priodol.

“Gallai’r rheini sy’n dewis cymryd rhan helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i frechlyn i’n diogelu ni i gyd.”

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un 18 oed neu hŷn sy’n byw yn y DU. I gofrestru, mae angen i bobl lenwi ychydig o fanylion personol a manylion cyswllt, ac ateb cyfres o gwestiynau sgrinio iechyd sylfaenol ar ffurflen NHS.UK ar-lein. Mae’r gwasanaeth yn hynod ddiogel, a chedwir data personol a chaniatadau mewn system GIG y mae NHS Digital, sef y sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am TG yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, yn ei rheoli.

Dydy’r bobl sy’n cofrestru eu manylion trwy’r gwasanaeth ddim yn cofrestru i gymryd rhan mewn astudiaeth neu dreial penodol. Yn hytrach, fe fydd ymchwilwyr sy’n gweithio ar astudiaethau brechlyn y mae’r NIHR yn eu cefnogi’n gallu chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi cofrestru â’r gwasanaeth.

Pan fydd gwirfoddolwr addas wedi’i nodi, fe fydd yr ymchwilwyr yn anfon e-bost neu neges destun at unrhyw un sy’n cyfateb i’r meini prawf ar gyfer eu hastudiaeth. Fe fydd hyn yn cynnwys rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r astudiaeth a chyfle i’r defnyddiwr gysylltu â’r tîm ymchwil a dysgu mwy, neu fynegi diddordeb mewn cymryd rhan.

Does yna ddim gorfodaeth i gymryd rhan mewn unrhyw astudiaeth ac fe all pobl sydd wedi cofrestru newid eu meddyliau a dileu eu manylion cyswllt o’r gofrestrfa ar unrhyw adeg.

I gael gwybod mwy, ewch i: www.nhs.uk/researchcontact. Mae yna ragor o wybodaeth am gymryd rhan mewn ymchwil COVID-19 ac am gyfleoedd eraill yn www.bepartofresearch.uk

 

Rhannu:
Cyswllt: