Neidio i'r prif gynnwy

Mae offer monitro calon symudol newydd Powys yn helpu i ganfod afreoleidd-dra ar y galon yn gyflymach

Mae gwasanaeth newydd sy'n ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i gleifion ddarganfod a ydyn nhw'n dioddef o arrhythmia* bellach yn cael ei gyflwyno i gleifion drwy rai meddygfeydd ym Mhowys.

 

Wedi'i gydlynu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys dan ei Wasanaeth Cardioleg Cymunedol newydd, gyda chyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru - mae'r prosiect yn un sy'n bersonol iawn i'r swyddog sy'n arwain gwaith y bwrdd iechyd. Cath Rowlands yw Partner Busnes Costio a Gwerth Cyllid y bwrdd iechyd ac mae hi ei hun wedi dioddef o arrhythmia.

 

"Yn bersonol, arhosais 15 mlynedd am ddiagnosis oherwydd pryd bynnag yr es i weld meddyg teulu roedd cyfradd curiad fy nghalon wedi setlo ond roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le. Roeddwn i'n gwybod na ddylwn i gael cyfradd curiad calon 220bpm pan oeddwn i'n eistedd ac yn gwylio'r teledu," meddai Cath.

 

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn amlwg i mi fod technoleg bellach ar gael i wneud diagnosis yn gyflymach, yn haws ac yn rhatach ac osgoi cleifion eraill rhag gorfod teithio i ysbytai cyffredinol dosbarth ar gyfer profion."

 

Mae'r prosiect wedi cydlynu bod nifer o fonitorau symudol y galon** yn cael eu darparu i feddygfeydd mewn rhai rhannau o'r sir.

 

"Mae hyn yn golygu bod y meddyg teulu, neu nyrs o fewn y practis, yn gallu dangos i'r claf sut i fonitro curiad ei galon ei hun gartref ac yna gall staff clinigol weld cofnodion clir o ble mae arrhythmia yn digwydd o fewn wythnosau" meddai Cath.

 

Yna gellir rheoli'r claf a'i feddyginiaethu yn y feddygfa lle bo hynny'n briodol, neu ei atgyfeirio at Wasanaeth Cardioleg Cymunedol newydd y bwrdd iechyd, sy'n cael ei arwain gan Dr Graham Thomas, ar gyfer ecocardiogram – unwaith eto gellir gwneud hyn ym Mhowys. Ar gyfer cyflyrau mwy difrifol gellir atgyfeirio cleifion at arbenigwyr.

 

I'r cleifion sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn, mae'r bwrdd iechyd yn amcangyfrif bod yr aros ar gyfartaledd am ddiagnosis wedi gostwng o 27 wythnos i 3 wythnos. Yn gyffredinol, mae diagnosis cynharach yn golygu gwell canlyniadau iechyd i'r claf ond nid yn unig hyn; yn ystod y 12 mis mae'r prosiect wedi bod ar waith, mae'r bwrdd iechyd yn amcangyfrif bod cleifion wedi arbed tua £7,000 mewn costau teithio, 372 awr wrth deithio yn ogystal â lleihau'r allyriadau carbon canlyniadol tua 3.54 tunnell ***.

 

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gweithio gyda meddygfeydd sydd wedi ymateb i wahoddiad i gymryd rhan yn y rhaglen ond maen nhw'n awyddus i weithio gyda phob practis yn y sir.

 

Dywedodd Dr Ajith Kartha, sy'n gweithio yng Nghanolfan Feddygol Llanfyllin: "Mae hon yn fenter wych gan y bwrdd iechyd lleol. Mae'r peilot wedi dangos canlyniadau calonogol wrth leihau atgyfeiriadau, sicrhau atgyfeiriadau o ansawdd gwell a chanlyniadau gwell i gleifion. Mae’n wych bod modd delio â llawer o broblemau cardiaidd yn y gymuned. Da iawn i Cath a Dr Mel Plant am eu hymdrechion i sefydlu'r prosiect hwn."

 

Llun: Mae Cath (dde) yn y llun gyda Dr Kartha (chwith) o Ganolfan Feddygol Llanfyllin a Rheolwr Cyffredinol y Practis, Juliet Sagar. Mae Llanfylllin yn un o'r practisau sy'n cymryd rhan yn y prosiect.

 

Nodiadau

*Arrhythmia - Mae arrhythmia yn annormaledd o rhythm y galon. Gall guro yn rhy araf, yn rhy gyflym neu'n afreolaidd. Mae'r annormaleddau hyn yn amrywio o anghyfleustra bach neu anghysur i broblem a allai fod yn angheuol.

** Y monitorau sy'n cael eu defnyddio gan feddygon teulu lleol yw Zio XTs a Kardia Mobiles. Gallwch weld fideos defnyddiol o sut mae'r offer hwn yn gweithio ar y gwefannau canlynol. (Sylwch mai gwefannau hyrwyddo'r gwneuthurwyr eu hunain yw'r rhain ond teimlwn fod y fideos yn esbonio'n dda sut mae'r systemau'n gweithio).

 

*** https://calculator.carbonfootprint.com/calculator.aspx?tab=4

Rhannu:
Cyswllt: