Neidio i'r prif gynnwy

Mae Powys yn ehangu'r rhestr o arwyddion a symptomau'r coronafeirws

Gall pobl sy'n byw ym Mhowys nawr fynd am brawf Coronafeirws am ddim os oes ganddynt amrywiaeth ehangach o symptomau. Yn ogystal â'r tri symptom clasurol: tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli/newid blas ac arogl; mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddynt symptomau eraill hefyd, sef:

  • Symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys unrhyw un neu bob un o'r canlynol: poenau; blinder; cur pen; trwyn sy'n rhedeg neu wedi'i flocio; tisian; dolur gwddf; bod yn fyr eich anadl; cyfog; colli archwaeth am fwyd
  • Dolur rhydd neu chwydu
  • Teimlo'n sâl yn gyffredinol neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Mae'r newid yn digwydd er mwyn ein helpu i ddod o hyd i achosion cudd o COVID-19 yn ein cymunedau, a lleihau nifer y trosglwyddiadau. Mae nodi heintiau a allai fel arall fynd heb eu canfod yn arbennig o bwysig wrth i amrywiolion newydd o'r feirws ddod i'r amlwg ac wrth i ysgolion ailagor.

Dywedodd Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mhowys: "Rydyn ni'n dysgu mwy a mwy am y feirws a'i amrywiolion bob dydd. Mae ein data a'n dadansoddiad yn dangos bod tua 79% o bobl ym Mhowys sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 yn dangos un neu fwy o dri symptom clasurol sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli/newid blas ac arogl.

"Fodd bynnag, mae ein data diweddaraf hefyd yn dangos bod tua 21% o bobl yn teimlo'n sâl gydag un neu fwy o'r symptomau a restrir uchod, nid dim ond y tri symptom clasurol. Mae'r rhestr estynedig hon o symptomau yn cyd-fynd â rhestr Sefydliad Iechyd y Byd.

"Bydd sicrhau profion effeithiol a hygyrch ar gyfer ystod ehangach o arwyddion a symptomau yn helpu i reoli ac atal y feirws rhag lledaenu ymhellach yn ein cymunedau ym Mhowys.

"Bydd preswylwyr felly'n cael eu hannog i gael prawf os ydyn nhw'n profi unrhyw symptomau fel yr uchod sy'n newydd, yn barhaus a/neu'n anarferol iddyn nhw. Po fwyaf o brofion sy'n cael eu cynnal, yr hawsaf fydd gweld clystyrau cynnar o achosion ac amrywiolion posib o'r feirws. Bydd hyn yn helpu wrth inni lacio'r cyfyngiadau yn y dyfodol."

Rhaid i bobl sy'n profi un neu fwy o dri symptom clasurol tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli/newid blas ac arogl barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru drwy fynd am brawf a hunanynysu gydag aelodau eu cartref tra byddant yn aros am ganlyniad prawf.

I bobl sy'n cymryd y prawf oherwydd y symptomau ehangach newydd a restrir uchod, nid yw'n ofynnol iddynt ynysu wrth iddynt aros am ganlyniad eu prawf. Mae hyn yn cynnwys disgyblion ysgol sy'n gallu parhau i fynd i'r ysgol wrth iddynt aros am ganlyniad eu prawf.

Gall pobl sydd wedi cael unrhyw un o'r symptomau clasurol neu unrhyw un o'r symptomau ehangach newydd ac a hoffai archebu prawf wneud hynny ar-lein yn www.llyw.cymru/cael prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119, neu 18001 119 am bobl ag anawsterau clyw neu leferydd. Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.

Gan mai canolfannau profi cenedlaethol yw'r rhain, efallai y cewch eich holi'n awtomatig am y tri symptom clasurol. Fodd bynnag, dewiswch y naill opsiwn neu'r llall: "gofynnwyd i chi gymryd prawf gan eich cyngor lleol" neu "rydych yn rhan o brosiect peilot y llywodraeth" i archebu eich prawf.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu â chanolfan Brofi Powys drwy e-bost yn Powys.testing@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 01874 612228. Fodd bynnag, os ydych am holi am ganlyniad eich prawf COVID-19, bydd angen i chi ffonio 119. Gall canlyniadau gymryd hyd at 72 awr i'w prosesu.

Rhannu:
Cyswllt: