Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau cenedlaethol i hunan-ynysu a phrofi am COVID-19 yn dod i rym ym Mhowys

Wrth i ni i gyd baratoi i fyw ochr yn ochr â COVID-19, mae'r ffordd rydyn ni'n cael ein profi am y feirws yn newid. Cafodd y newidiadau hyn eu creu i helpu bywyd i barhau tra hefyd yn parhau i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed.

Yn unol â pholisi genedlaethol Llywodraeth Cymru, ni fydd pecynnau prawf cartref PCR ar gael rhagor i’r cyhoedd o 28 Mawrth, a'r diwrnod olaf y gall aelodau o'r cyhoedd archebu prawf PCR wyneb yn wyneb yw 30 Mawrth.

Gall aelodau o'r cyhoedd gyda symptomau archebu prawf llif unffordd (LFT) ar lein: Order coronavirus (COVID-19) rapid lateral flow tests - GOV.UK (www.gov.uk) neu drwy ffonio 119. Ni fydd profion ar gael i gasglu yn lleoliadau fel fferyllfeydd.

Fel rhan o’r newidiadau cenedlaethol hyn mae’r uned brofi yn Nhalgarth wedi cau yn barod, a bydd y cyfleusterau profi a weithredir gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn Aberhonddu, Trefyclo, Llandrindod, Machynlleth, Y Drenewydd ac Ystradgynlais yn cau ddiwedd y mis.

Dywedodd Catherine Watts, Rheolwr Gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu ac Arweinydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae profi PCR i’r cyhoedd yn dod i ben yng Nghymru, ond bydd yn parhau i fod ar gael i’r bobl sy’n agored i niwed yn glinigol, yn disgwyl triniaeth gan y GIG, neu sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig. Bydd y bwrdd iechyd felly yn parhau i gynnal ein Hunedau Profi Cymunedol lleol yn y Trallwng ac ar faes y sioe yn Llanfair-ym-muallt ar gyfer y grwpiau hyn.

"Er bod y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu yn dod i ben o ddydd Llun 28 Mawrth, byddem yn annog unrhyw un yn y sir sydd â phrawf positif i barhau i hunanynysu am o leiaf 5 diwrnod a chymryd profion o ddiwrnod 5 i sicrhau eu bod yn negyddol cyn gadael eu cyfnod ynysu. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed ac yn lleihau lledaeniad y feirws.

"Byddwn hefyd yn gofyn i'r rhai sy'n cwblhau prawf i barhau i adrodd yr holl ganlyniadau. Dylech adrodd canlyniad pob prawf, ni waeth a yw'n bositif, yn negatif neu'n annilys, mae angen i ni fod yn ymwybodol o achosion i helpu amddiffyn eraill."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd y cynnig o £500 o gymorth ariannol i'r rhai sy'n hunanynysu yn parhau tan ddiwedd mis Mehefin. Mae hwn ar gael i rai i helpu gyda cholli enillion.

Ni fydd angen i’r rhai sy’n gysylltiadau agos heb eu brechu i hunanynysu rhagor.

Cyhoeddwyd: 31/03/2022

Rhagor o wybodaeth isod. 


Profion coronafeirws i’r cyhoedd

  • Nid yw profion PCR ar gael i'r cyhoedd rhagor.
  • Pwy sy’n gallu cael prawf llif unffordd COVID-19? Dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch gael prawf coronafeirws yn awr:
    • os oes gennych symptomau COVID-19
    • os oes gennych COVID-19 ac eisiau gweld a yw eich prawf yn dal i fod yn bositif ar ôl diwrnod 5
    • os yw meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd
    • os ydych yn mynd i ymweld â rhywun sy’n gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd
    • os yw eich meddyg teulu neu eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi gymryd prawf
  • Os felly, archebwch brawf llif unffordd (LFT) ar lein neu drwy ffonio 119. Nid yw’r profion ar gael rhagor i'w casglu mewn lleoedd fel fferyllfeydd a llyfrgelloedd, ac nid ydynt ar gael rhagor gan y GIG os NAD oes gennych symptomau.
  • Os ydych yn profi’n bositif, dylech barhau i hunanynysu am o leiaf 5 diwrnod. Cymerwch brofion o ddiwrnod 5 i wirio eich bod yn negyddol cyn gadael cyfnod ynysu.
  • Cofiwch adrodd canlyniad bob prawf. Ni waeth a yw'n bositif, yn negatif neu'n annilys, mae angen i ni fod yn ymwybodol o achosion i helpu amddiffyn eraill.
  • Mae rhai pobl yn gymwys am gefnogaeth ariannol i helpu gyda cholli enillion os oes rhaid hunan-ynysu. Mae hyn ar gael tan ddiwedd mis Mehefin. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
  • Ni fydd angen i’r rhai sy’n gysylltiadau agos heb eu brechu i hunanynysu rhagor.
  • Am fwy o wybodaeth ar brofi am coronafeirws yng Nghymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Profion coronafeirws i bobl sy'n gweithio ar y rheng flaen ym maes iechyd gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig.

  • Mae profion PCR ar gael i staff iechyd, gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig os oes gennych symptomau, neu os ydych yn gyswllt aelwyd â rhywun sydd â COVID-19.
  • Gall staff iechyd a gofal cymdeithasol a staff ysgolion arbennig ffonio Canolfan Brofi Powys i drefnu apwyntiad yn ein Hunedau Profi Cymunedol yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng:
    • Ffoniwch Ganolfan Profi Powys ar 01874 442515 (0930-1630 dydd Llun - dydd Gwener, 1000-1500 dydd Sadwrn - dydd Sul)
    • E-bostiwch Ganolfan Profi Powys ar powys.testing@wales.nhs.uk
  • Noder nad yw profion PCR ar gael rhagor i'r cyhoedd [link to general public page] 
  • Am fwy o wybodaeth ar brofion coronafeirws ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Profion coronafeirws i bobl sy'n gymwys i gael triniaethau COVID-19

  •  Ar hyn o bryd mae rhai pobl yn gymwys i dderbyn yr amrywiaeth o opsiynau triniaeth newydd. Bydd y rhain ar gael i gleifion y GIG sydd o fewn mwy o berygl o COVID-19. Mae'r triniaethau hyn yn ychwanegol i’r brechiadau. Mae brechu yn parhau i fod yn hollbwysig i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn y DU.
  • Gall pobl sy'n gymwys i gael triniaethau COVID-19 archebu profion PCR i'w gwneud gartref.
  • Mae mwy o wybodaeth ar driniaethau COVID-19 a sut i archebu pecynnau profion PCR ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

 

Rhannu:
Cyswllt: