Neidio i'r prif gynnwy

Mae trigolion lleol wedi helpu i greu gweledigaeth newydd ar gyfer gwella iechyd a lles ym Mhowys

Mae rhagor o wybodaeth am y Model Gofal a Lles Integredig ym Mhowys ar gael yn ww.powyswellbeing.wales

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys, ar ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, yn falch o rannu'r 'Model Gofal a Lles Integredig ym Mhowys' newydd. 

Bydd y Model Gofal a Lles Integredig yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gofal a chymorth i bawb ym Mhowys, gan symud y ffocws oddi wrth afiechyd a thuag at wella iechyd a lles ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r model newydd yn cyflawni ein haddewid ni a dyheadau pobl ym Mhowys a ddisgrifiwyd gyntaf mewn Strategaeth Iechyd a Gofal ar y Cyd, Powys Iach, Gofalgar. Roedd y strategaeth hon yn nodi ein gweledigaeth a'n trywydd tuag at: 

  • hybu lles; 
  • cynnig cymorth a chefnogaeth gynnar i bobl; 
  • mynd i'r afael â'r pedwar clefyd mawr sy'n cyfyngu ar fywyd (canser, clefydau cylchrediad y gwaed, iechyd meddwl, clefydau anadlol); a 
  • darparu gofal a chymorth di-dor a chydgysylltiedig i'n preswylwyr. 

Mae pobl o bob oed ynghyd â gweithwyr proffesiynol ym Mhowys wedi helpu i lunio'r model newydd drwy rannu eu barn a'u profiadau o ran: 

  • beth sydd bwysicaf iddynt; 
  • beth sy'n cadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi neu lle maen nhw’n gweithio; 
  • beth sy'n gweithio'n dda nawr yn eu cymuned neu eu hardal leol; a 
  • beth yr hoffent ei weld yn gwella yn y dyfodol. 

Byddwn yn cyflawni hyn drwy gymorth a chefnogaeth gynnar, gofal cydgysylltiedig yn nes at adref gan ddefnyddio technoleg glyfar, gwell gwasanaethau yn y gymuned leol, ac iechyd a gofal integredig drwy fwy o gydweithio gyda’n partneriaid. 

Mae'r cyfraniadau gwerthfawr a gawsom wedi dangos bod lefel uchel o uchelgais ar gyfer newid, ac nad oes yr un ddwy gymuned yr un fath o ran lles ac ymdeimlad o berthyn. Gyda hyn mewn golwg, bydd y model newydd yn hyblyg o ran sicrhau bod pobl yn cael mynediad haws at wasanaethau yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir er mwyn diwallu eu hanghenion. 

Ein nod yw galluogi pobl o bob oed: 

  • i ddechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda; a 
  • i fyw mor annibynnol â phosibl, yn y gymuned maen nhw’n ei dewis. 

Rydym am i bobl allu teimlo bod ganddynt lais yn eu cymuned, eu bod yn gallu sicrhau newid, cefnogi ei gilydd, a chreu rhwydwaith o gymorth er mwyn gwella eu lles eu hunain, a lles eu teulu a’u ffrindiau.

I gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, bydd datblygiad Canolfan Ranbarthol Wledig a Hwb Lles Cymunedol newydd o'r radd flaenaf i drigolion yng ngogledd Powys. Bydd y ganolfan yn rhan o gampws lles amlasiantaethol llawer ehangach yn y Drenewydd sy'n dwyn ynghyd amrywiaeth o wasanaethau o'r dref ar un safle. Bydd yn cysylltu â'n rhwydwaith presennol o ysbytai cymunedol ym Mhowys, a gyda'r ysbytai cyffredinol dosbarth ar hyd ein ffiniau, i sicrhau bod trigolion yn cael y driniaeth gywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir. Yn ganolog i hyn mae sicrhau profiad mwy cydgysylltiedig i drigolion lleol drwy lwybrau gofal mwy integredig ar draws canolbarth Cymru. 

Bydd y model newydd hwn o ofal a lles yn cael ei dreialu yng ngogledd Powys yn y lle cyntaf, ac yna ar draws canolbarth a de'r sir wrth i'r model esblygu. 

Mae'n ddealladwy bod pandemig y coronafeirws wedi achosi oedi i’n cynlluniau i lansio'r model newydd hwn. Ond, mae hyn hefyd wedi rhoi cyfle i ailasesu a myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r cyfnod heriol hwn. Er enghraifft, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau cymorth iechyd meddwl a lles yn y cartref, cefnogi pobl i gael mynediad at iechyd a gofal drwy dechnoleg ddigidol, a chydweithio ar draws gwasanaethau gwirfoddol, cymunedol, iechyd a gofal. 

Bydd y model newydd yn galluogi ein Strategaeth Iechyd a Gofal ar y cyd i ddod yn realiti, gan wireddu ein gweledigaeth o Bowys, Iach, Gofalgar. 

Gobeithio bydd pobl ym Mhowys yn cydnabod eu cyfraniad gwerthfawr i'r weledigaeth hon o iechyd a lles ym Mhowys, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r model hwn mewn dyfodol sy’n newid yn barhaus ym Mhowys. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Model Gofal a Lles Integredig ym Mhowys ar gael yn ww.powyswellbeing.wales

Rhannu:
Cyswllt: