Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Profi Symudol yn dychwelyd i Lansantffraid-ym-Mechain a Llandrindod.

Bydd dwy uned brofi symudol yn dychwelyd i Lansantffraid-ym-Mechain a Llandrindod o ddydd Llun 29 Mawrth.

Bydd yr unedau profi drwy apwyntiad yn unig yn dychwelyd i'r un lleoliad â deufis yn ôl yn Llansantffraid-ym-Mechain yng Nghlwb Cymdeithasol y Clwb Pêl-droed, a Neuadd y Sir yn Llandrindod. Dim ond drwy apwyntiad y gellir mynd i'r unedau profi hyn sy'n cynnig gwasanaeth profi drwy ffenest y car.

Mae'r unedau profi symudol yn rhan o'r rhaglen brofi ehangach yma ym Mhowys ochr yn ochr â'r canolfannau profi cenedlaethol yn y Drenewydd ac Aberhonddu lle gallwch gerdded, gyrru neu feicio am brawf, a dwy Uned Brofi Gymunedol ychwanegol yn Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng ar gyfer apwyntiad profi drwy ffenest y car.

Mae profi symudol yn sicrhau bod gan breswylwyr fynediad i brofion COVID-19 mor agos i'w cartrefi â phosibl.  Gall preswylwyr sy'n teimlo symptomau ond sy'n methu â mynd i uned brofi symudol ofyn am Becyn Profi Cartref, a ddanfonir i'ch cartref.

Bydd y cyfleuster profi symudol yn parhau i symud i leoliadau eraill ledled Powys i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd uned brofi pan fo angen.

Mae pob uned brofi ar gael drwy apwyntiad yn unig ar gyfer pobl â symptomau,  sef: peswch parhaus newydd, tymheredd uchel (twymyn), colli neu newid i arogl neu flas.

Gydag amrywiolion newydd o'r feirws sy'n gallu lledaenu'n haws yn cylchredeg ym mhobman yng Nghymru bellach, mae'n fwy hanfodol nag erioed, os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau’r coronafeirws, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith yn gyntaf, ac archebu prawf cyn gynted â phosib.

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • aros yn lleol
  • gallwch gwrdd yn yr awyr agored â 4 o bobl o 2 aelwyd
  • cadw pellter cymdeithasol
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau ac mewn mannau cyhoeddus eraill dan do, oni bai bod gennych esgus rhesymol i beidio â gwneud. Dylai pawb ddilyn y canllawiau hyn os ydyn nhw wedi derbyn brechlyn COVID-19 ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Rhannu:
Cyswllt: