Gyda'r clociau'n mynd yn ôl a dyddiau'n mynd yn fyrrach wrth i ni agosáu at y gaeaf, nid yw'n anghyffredin profi newid mewn hwyliau a lefelau egni.
Gall llai o olau dydd arwain at deimladau o flinder a hwyliau isel, ac mae gweithwyr meddygol proffesiynol wedi sylwi ar gysylltiadau rhwng amser yma’r flwyddyn a chynnydd mewn diagnosis o iselder ac Anhwylder Affeithiol Tymhorol.
Ni allwn ddianc rhag y newid i ddyddiau hirach a nosweithiau byrrach, ond gallwn reoli eu heffaith ar ein hiechyd meddwl. Dechreuwch drwy roi cynnig ar y pum awgrym hyn.
1. Manteisio ar y golau dydd
Gyda llai o olau dydd ar gael i ni, mae'n bwysig mynd allan cymaint â phosibl yn ystod y dydd. Mae golau'r haul yn rhoi hwb i serotonin, sy'n gwella hwyliau a ffocws, a bydd hyd yn oed mynd am dro bach dros ginio yn helpu.
2. Cadw mewn cysylltiad
Gall unigedd waethygu teimladau o dristwch neu orbryder yn ystod y misoedd tywyllach. Gwnewch ymdrech i gadw mewn cysylltiad cymdeithasol trwy drefnu i ddal fyny’n rheolaidd gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr. Gallwch gwrdd ar-lein neu codwch y ffôn os na allwch ei gwneud hi wyneb yn wyneb.
3. Cadw’n actif
Mae'n anoddach aros yn llawn cymhelliant wrth i ddüwch y nosweithiau agosáu, ond gall hyd yn oed ymarfer corff ysgafn, fel ioga, ymestyn, neu ymarfer corff cyflym gartref helpu gwella iechyd meddwl trwy ryddhau endorffinau sy'n hybu hwyliau.
4. Aros yn glyd
Cofleidiwch yn y tymhorau sy’n newid a manteisiwch ar y cyfle i wneud eich gofod byw yn amgylchedd cysurus sy’n codi calon. Meddyliwch am oleuadau cynnes, blancedi clyd a siocled poeth i gadw’n gadarnhaol yn ystod y diwrnodau byrrach.
5. Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a hunanofal
Gall newidiadau tymhorol arwain at deimladau o dristwch neu orbryder, ond gall ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar fel anadlu dwfn neu fyfyrio eich helpu chi aros yn y presennol. Gallwch ddysgu'r sgiliau hyn a mwy drwy gofrestru ar gyfer cymorth iechyd meddwl ar-lein a ddarperir yn rhad ac am ddim gan GIG Cymru. Edrychwch ar y rhaglenni sydd ar gael yma:
Os ydych chi'n dal i gael trafferth gyda newid yn eich hwyliau, siaradwch â'ch meddyg teulu i archwilio'ch opsiynau cymorth llawn.
Rhyddhawyd: 28/10/2024