Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Unedau Profi Symudol yn symud i Fachynlleth a Threfyclo fel rhan o raglen dreigl

Mae'r gwaith o leoli unedau profi symudol ledled Powys yn parhau gyda'r ddwy uned yn symud i leoliadau newydd ym Machynlleth a Thref-y-clawdd o ddydd Llun 1 Chwefror.

Caiff yr unedau eu hadleoli i Faes Parcio'r Plas, Machynlleth, ac i Faes Parcio Bowling Green Lane Tref-y-clawdd. Dylid nodi mai drwy apwyntiad yn unig y gellir mynd i'r uned brofi ac mai gwasanaeth gyrru drwodd a gynigir.

Mae dwy ganolfan brofi genedlaethol arall ar gael i breswylwyr, yn y Drenewydd ac Aberhonddu lle gallwch gerdded, gyrru neu feicio am brawf, ac uned brofi leol arall yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer apwyntiad gyrru drwodd.

Mae'r rhaglen brechu yn mynd rhagddi ledled Powys, gyda staff iechyd a gofal rheng flaen, gofalwyr a phobl yn y grwpiau mwyaf bregus yn derbyn eu dôs cyntaf o'r brechlyn. Er bod y brechlyn yn rhoi lefel dda o imiwnedd rhag y feirws, mae angen i bobl gofio os ydyn nhw'n dangos unrhyw arwyddion a symptomau'r Coronafeirws, rhaid iddyn nhw hunanynysu a chael prawf ar unwaith.

Mae lleoli'r unedau teithiol yn rhan o raglen dreigl o brofion symudol i sicrhau bod gan breswylwyr fynediad i brofion COVID-19 mor agos i'w cartrefi â phosibl.  Gall preswylwyr sy'n teimlo symptomau ond sy'n methu â mynd i uned brofi symudol ofyn am Becyn Profi Cartref, a ddanfonir i'ch cartref.

Bydd y cyfleuster profi symudol yn parhau i symud i leoliadau eraill ledled Powys i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd uned brofi pan fo angen.

Mae pob uned brofi ar gael drwy apwyntiad yn unig ar gyfer pobl â symptomau,  sef: peswch parhaus newydd, tymheredd uchel (twymyn), colli neu newid i arogl neu flas.

Nawr, gydag amrywiolyn newydd o'r feirws sy'n gallu lledaenu'n haws yn cylchredeg ym mhobman yng Nghymru, mae'n fwy hanfodol nag erioed, os ydych chi'n teimlo'n sâl, yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau’r coronafeirws, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith yn gyntaf, ac archebu prawf cyn gynted â phosibl.

Cofiwch, mae Cymru gyfan dan glo (lefel rhybudd 4) lle mae'n rhaid i bobl ddilyn canllawiau cenedlaethol ac:

  • aros gartref
  • peidio â chwrdd â neb ond y bobl rydych chi'n byw gyda nhw
  • gweithio gartref os medrwch
  • gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd
  • arhoswch 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd angen i bob un ohonom ei wneud ar Lefel Rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

Gellir archebu apwyntiadau ym Machynlleth, Tref-y-clawdd, y Drenewydd ac Aberhonddu drwy borth archebu cenedlaethol Llywodraeth y DU, naill ai ar-lein yn www.gov.uk/get-coronavirus-test, dros y ffôn ar 119, neu 18001 119 ar gyfer pobl ag anawsterau clyw neu leferydd.  Dyma'r ffordd o ofyn am becyn profi cartref hefyd.

Gall preswylwyr yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau wneud apwyntiad yn yr uned brofi leol drwy ffonio 01874 612228 neu ar-lein yn powys.testing@wales.nhs.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 ym Mhowys, ewch i wefan y bwrdd iechyd yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/profi-coronafeirws/

Rhannu:
Cyswllt: