5 Rhagfyr 2025 (Diweddarwyd: 9 Rhagfyr 2025)
Wrth i ni symud trwy fisoedd y gaeaf, rydym yn gweld cynnydd sydyn mewn afiechydon anadlol, gan gynnwys annwyd, ffliw a feirysau gaeaf eraill, yn ogystal ag achosion o ddolur rhydd a chwydu yn ein cymuned.
Er mwyn helpu amddiffyn ein cleifion, ymwelwyr a staff, mae masgiau yn orfodol wrth ymweld â'n hysbytai ar unwaith ac rydym yn gofyn i bawb feddwl yn ofalus cyn ymweld. Mae llawer o'n cleifion yn agored i niwed ac yn fwy tebygol o brofi cymhlethdodau difrifol o'r heintiau hyn.
Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i weld eich anwyliaid, ond drwy aros gartref os ydych yn teimlo’n sấl, rydych yn helpu I leihau lladaeniad heintiau ac i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.
Peidiwch ag ymweld os:
Diogelwch eich hun a phobol eraill y gaeaf hwn
Os ydych yn gymwys I gael y brechlyn ffliw, COVID-19 neur feirws Syncytial Anadlol (RSV) y gaeaf hwn, gwnewch yn siwr eich bod yn mynychu’r apwyntiad os gwelwch yn dda. Mae brechu yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddiogelu eich hun a’r rhai o’ch cwmpas o’r salwch difrifol
Drwy ddilyn y canllawiau hyn, rydych yn ein helpu i:
Diolch i chi am helpu i ddiogelu ein cleifion a’n cymuned y gaeaf hwn.