Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o fyfyrwyr Academi Iechyd a Gofal Powys i dderbyn lleoliadau gwaith

Mae ail don o fyfyrwyr i’w recriwtio i Academi Iechyd a Gofal newydd Powys wedi dechrau eu lleoliadau gwaith, gan gefnogi gwasanaethau ysbyty yn Llandrindod, Ystradgynlais, Y Drenewydd ac Aberhonddu.

Mae’r oedolion ifanc wedi derbyn rolau o fewn y timau porthorion a domestig yn Ysbytai Llandrindod ac Ystradgynlais, gyda’r tîm arlwyo yn Ysbyty’r Drenewydd, yn darparu cymorth gweinyddol i’r Adran Gwasanaethau Cymunedol yn Ysbyty’r Drenewydd ac fel gweithiwr cefnogi yn y Ganolfan Blant yn Aberhonddu, fel rhan o Gynllun Kickstart a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Fel rhan o’u lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n 25 awr yr wythnos am y chwe mis nesaf, fe fyddant yn cymryd rhan mewn rhaglen ddysgu, sydd yn cyflwyno sgiliau a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol iddynt, gan eu hyfforddi i’w helpu i sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol a hyfforddiant gan fentor o fewn y gweithle.

Trwy’r academi, mae’r Cynllun Kickstart yn cefnogi cyflogwyr – gan gynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), Cyngor Sir Powys (CSP), a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) – i greu swyddi i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac mewn perygl o fod yn ddiwaith yn y tymor hir.

Mae’r myfyrwyr newydd yn cynnwys Kimberley Owen, 20 mlwydd oed, sydd wedi derbyn lleoliad deuol yn cefnogi’r timau porthorion a domestig yn Ysbyty Ystradgynlais.

“Mae wedi bod yn wych hyd yn hyn,” dywedodd Kimberly, sydd o Ystradgynlais ac wedi bod yn ei swydd am oddeutu chwe wythnos. “Mae’r staff yma mor hyfryd a chymwynasgar, ac rwyf wirioneddol wedi dysgu llawer am y bwrdd iechyd a’r GIG yn yr amser byr hwnnw.

“Y rheswm pam yr wyf yn dewis y lleoliad gwaith hwn yw oherwydd ei fod yn ffordd wych o gynnig cyfleoedd newydd i oedolion ifanc. Mae ychydig yn wahanol i’m rolau swyddi blaenorol ond roedd wedi dal fy llygad gan eu bod yn chwilio’n benodol am bobl ifanc sydd wrthi’n weithgar yn chwilio am waith.

“Rwyf wastad wedi bod eisiau ymuno â’r GIG fel dewis gyrfa yn y dyfodol gan eu bod yn cael cymaint o gyfleoedd a rolau yno, ac rwyf wastad wedi cael diddordeb yn yr ochr cyflwyno gofal ohono. Felly rwyf yn edrych ymlaen at y chwe mis nesaf!”

Ychwanegodd ei mentor gweithle, a Goruchwyliwr Gwasanaethau Gwesty: “Mae Kimberly wedi setlo’n dda iawn o fewn yr adran ac mae safon ei gwaith yn wych. Mae hi wedi arddangos parch a charedigrwydd tuag at ei chydweithwyr gwaith ac mae’n frwdfrydig iawn i ddysgu mwy am y rôl.”

Mae swyddi gwag iechyd a gofal cymdeithasol y Cynllun Kickstart ar gael trwy’r academi ar gyfer cynorthwywyr domestig/porthorion a chynorthwywyr arlwyo yn Y Trallwng, Machynlleth, Llanidloes, Bronllys ac Aberhonddu, gweithwyr cefnogi yn Llanidloes, Y Drenewydd a Llandrindod, a chynorthwywyr gweinyddol ym Mronllys, Y Drenewydd a’r Trallwng. Am ragor o wybodaeth, siaradwch gyda’ch Hyfforddwr Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. 

Mae Academi Iechyd a Gofal (HCA) Powys wedi cael ei sefydlu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys (RPB) sy’n cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys CSP, BIAP a PAVO, sy’n cydweithio i wella iechyd a lles trigolion y sir. 

Dywedodd y Cyng Myfanwy Alexander, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: “Rydym yn awyddus iawn i ddefnyddio pob dull sy’n bosibl i annog pobl i ddarganfod beth allai gyrfa mewn gofal olygu iddynt hwy. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, ac fe fyddem yn argymhell bod unrhyw un yn cael golwg agosach i ganfod yr hyn sy’n gweddu orau iddynt hwy.” 

Bydd Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cyfleoedd wyneb yn wyneb a rhai digidol trwy bedair ysgol - Ysgol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ysgol Arweinyddiaeth, Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr, ac Ysgol Addysg Broffesiynol a Chlinigol a Hyfforddiant. Mae’r cyfleoedd ar gyfer gweithwyr yn y sector iechyd a gofal, y rheini sydd am gael gyrfa yn y sector, ac i wirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl sy’n cefnogi’r sector.

Mae hefyd yn cynnig cyngor a hyfforddiant i’r rheini sy’n chwilio am yrfa newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gyda help Grŵp Colegau NPTC, trwy Hyb Sgiliau Academi Iechyd a Gofal Powys.

I ganfod mwy, ffoniwch 0845 4086 253, anfonwch e-bost at  arwain@nptcgroup.ac.uk neu chwilio am ‘Hyb Sgiliau Academi Iechyd a Gofal Powys’ ar-lein.

Am ymholiadau eraill am Academi Iechyd a Gofal Powys, cysylltwch â: Powys.OD@wales.nhs.uk

Rhannu:
Cyswllt: