Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o leoliadau i gasglu profion COVID-19 yn Powys

Bydd nifer y profion COVID-19 fydd ar gael ym Mhowys yn cynyddu o ddydd Llun (7 Mehefin) gyda dyfeisiau llif unffordd ar gael i'w casglu o llyfrgell yn y sir.

Mae’r gwasanaeth llyfrgell newydd hwn ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau COVID-19.  Dylai pobl sydd â symptomau barhau i archebu profion yn ein canolfannau profi ledled Powys neu ofyn am brawf drwy'r post drwy fynd yma www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119 (7am i 11pm).  Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Bydd dyfeisiadau ar gael o’r saith llyfrgell canlynol o ddydd Llun 7 Mehefin:

  • Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt, Antur Gwy, Ffordd y Parc, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3BA
  • Llyfrgell y Gelli Gandryll, Oxford Road, Y Gelli Gandryll, HR3 5BT
  • Llyfrgell Crughywel, Silver Street, Crughywel. NP8 1BJ
  • Llyfrgell Llandrindod, Y Gwalia, Llandrindod LD1 6AA
  • Llyfrgell Ystradgynlais, Temperance Lane, Ystradgynlais, SA9 1JJ
  • Llyfrgell Llanidloes, 5 Stryd y Dderwen Fawr, Llanidloes SY18 6BN
  • Llyfrgell Y Trallwng, Y Lanfa, Lanfa’r Gamlas, Y Trallwng, SY21 7AQ

Bydd y gwasanaeth yn dechrau ym Machynlleth, ddydd Mawrth 8 Mehefin ac yn Nhref-y-clawdd ar ddydd Mercher 9 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://maps.test-and-trace.nhs.uk/

Mae pob rhan o Gymru ar lefel rhybudd 2, ac mae’n parhau i fod yn hanfodol i bob un ohonom i ddilyn y canllawiau diweddaraf i atal y Coronafeirws rhag lledaenu.  Mae hyn yn cynnwys dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb.

Mae’r datblygiad yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ymddiriedolaeth GIG a Llywodraeth Cymru.

Beth i’w wneud os cewch chi ganlyniad positif prawf llif unffordd

  • Os cewch chi brawf llif unffordd positif, mae’n rhaid i chi hunanynysu’n syth am 10 diwrnod, am 10 diwrnod, a chael prawf PCR mewn canolfan brofi o fewn 24 awr.  Gallwch archebu prawf ar-lein ar GOV.UK, drwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim) neu drwy ap COVID-19 y GIG.
     
  • Os yw'ch prawf PCR yn negyddol ac wedi ei gymryd o fewn 24 awr o'ch prawf llif unffordd, gallwch orffen hunanynysu.
  • Os oedd eich prawf PCR yn negyddol ond wedi ei gymryd dros 24 awr ar ôl eich prawf llif unffordd, mae'n rhaid i chi a'ch cysylltiadau barhau i hunanynysu am y 10 diwrnod llawn o ddyddiad gwreiddiol y prawf llif unffordd. 
  • Os cewch chi brawf PCR positif a'i fod wedi ei gymryd o fewn 24 awr o'ch prawf llif unffordd, mae'n rhaid i chi barhau i hunanynysu am 10 diwrnod o ganlyniad y prawf llif unffordd gwreiddiol.
  • Os na fyddwch yn cael prawf PCR o fewn 24 awr, mae'n rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod.
  • Mae rhagor o wybodaeth am brofion llif unffordd yng Nghymru ar gael o wefan Llywodraeth Cymru Profion llif unffordd COVID-19 ar gyfer pobl heb symptomau | LLYW.CYMRU

Mae rhagor o wybodaeth am Brofion Coronafeirws ym Mhowys ar gael o wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys https://biap.gig.cymru/yma/pod

Rhannu:
Cyswllt: