Neidio i'r prif gynnwy

Mwynhewch y Nadolig ac Edrychwch ar ôl eich Iechyd

Ym mhob man, mae temtasiynau Nadoligaidd i’w gweld. O’r mins peis a’r gacen Nadolig i’r siocled a’ch hoff ddiod, mae’n hawdd gorfwyta dros yr Ŵyl. 

Ond peidiwch â phoeni! Fel rhan o ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru, mae gennym Fern Walter ac Elinor Davies, Gweithwyr Cymorth Dietegol, o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i rannu eu 10 awgrymiad da.

“Mae’r gaeaf yn gyfnod prysur i’r GIG oherwydd y tywydd oer a firysau’r ffliw. Y gaeaf hwn, bydd y panedmig yn ychwanegu pwysau ychwanegol ar y GIG, Fodd bynnag, mae sawl peth allwn ni eu gwneud i helpu. Gallwn wella ein lles trwy gadw’n heini, gwneud penderfyniadau bwyta gwell ac yfed llai o alcohol,” meddai Elinor.

“Ond does dim rhaid i ni osgoi y pethau rydyn ni'n eu mwynhau," ychwanegodd Fern. “Dyma ychydig o gamau bach y gallwch eu dilyn.”

 

  1. Ffocyswch ar y prif ddiwrnodau

Er mai dim ond ychydig o ddyddiau yw'r Nadolig, gall fod yn hirach oll gyda’r bwydydd temtasiwn yn llenwi'r siopau’r eiliad mae Calan Gaeaf yn dod i ben. Ceisiwch gadw bwydydd yr ŵyl ar gyfer y dyddiau arbennig hynny a rhoi cynnig ar ein hawgrymiadau isod ar gyfer opsiynau iachach drwy gydol y tymor.

  1. Newidiwch i’r diodydd sy’n isel mewn calorïau

Pan ddaw'r Nadolig, felly hefyd mae’r diodydd Nadoligaidd yn dod allan. Mae gwirodydd sydd llawn hufen yn arbennig o uchel mewn calorïau a’r diodydd poeth Nadoligaidd. Chwiliwch am rai sy’n isel mewn siwgr neu ddewisiadau amgen heb siwgr, a dewiswch ddiodydd cymysgu sy’n isel mewn calorïau. Mae sudd yn opsiwn ond cofiwch ei fod yn uchel yn siŵr, felly yfwch dim ond 150ml y diwrnod.

  1. Mwynhewch y bwyd Nadoligaidd

Nid y siocledi’n unig sy’n bwysig dros y Nadolig. Ceir digonedd o satswmas, clementines, cnau ac eog wedi’i fygu ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae llysiau tymhorol yn faethlon iawn, ac yn aml yn rhatach ac yn cael eu cynhyrchu'n lleol hefyd.

  1. Chwiliwch am y ryseitiau mwy iach

Os oedd arogl mins peis a phobi cacennau Nadolig yn y gegin yn rhan o’ch plentyndod, byddwch yn gwybod bod eu paratoi yn rhan fawr o'r profiad. Ewch draw i wefan y Sefydliad Prydeinig y Galon i ddod o hyd i ryseitiau blasus sy’n isel mewn braster ar gyfer mins peis, cacen Nadolig, trifle, siocleldi Nadolig, stwffin, a mwy. Gallwch barhau i fwynhau eich hoff fwydydd Nadoligaidd a hefyd bod yn wyliadwrus o’ch pwysau, Ewch i bhf.org.uk/recipes.

  1. Bwyta allan

Gall bwyta allan fod yn anodd pan fyddwch yn wynebu bwydlenni mawr. Peidiwch ag osgoi y bwydydd rydych chi'n eu mwynhau ond gallwch ystyried dewis rhwng bryd i ddechrau neu bwdin neu brif bryd o fwyd sydd llawn llysiau neu gyda salad ar yr ochr. Mae gwefan Sefydliad Prydeinig y Galon yn nodi: "Os ydych chi'n bwyta allan neu yn eich cartref, mae cael coffi neu baned o de tra bod eraill yn cael pwdin yn ffordd dda o orffen pryd o fwyd, neu gallech rannu pwdin gydag eraill."

  1. Cydbwysedd

Bydd adegau dros y Nadolig pan fyddwch efallai'n penderfynu bwyta pryd o fwyd sy’n fwy neu fwynhau rhywfaint o siocled. Mae hynny’n hollol iawn! Ceisiwch gadw gydbysedd gyda phethau ysgafnach a phrydiau mwy iach ar gyfer gweddill y diwrnod. Gwnewch sosban fawr o gawl a’i rhewi mewn dognau bach am ginio neu brydiau hawdd.

  1. Yfwch ddŵr

Sicrhewch eich bod yn yfed digon o ddŵr. Yn aml, rydym yn credu ein bod yn llwglyd pan fydd ein cyrff mewn gwirionedd yn sychedig. Mae yfed digon o ddŵr yn hollbwysig i’ch iechyd. Gall atal blinder, cur pen a rhwymedd.

Ceisiwch arllwys chwech neu wyth gwydr mewn i jwg a’u hyfed yn gyson trwy gydol y diwrnod. Os nad ydych yn hoff iawn o ddŵr, ychwanegwch sleisen o lemon neu leim, neu gwnewch baned o de llysieuol. Mae te a choffi arferol hefyd yn gweithio!

  1. Cadwch gysondeb

Gall cyfnod yr ŵyl amharu ar ein harferion ond dylwn barhau i anelu at gael prydau rheolaidd, a dynodi amser penodol i fwyta drwy gydol y dydd. Bydd hyn yn helpu cadw eich lefelau egni'n sefydlog ac yn golygu eich bod yn llai tebygol o fwyta bwyd a diodydd sy’n uchel mewn calorïau. Cofiwch ychwanegu rhai byrbrydau iach mewn i’ch cynllun bwyd rhag ofn i chi deimlo'n llwglyd rhwng prydau bwyd.

Llwglyd v Awchus

Mae rhan fwyaf ohonom yn cymysgu awch am fwyd gyda bod yn llwglyd. Llwgu yw angen y corff am fwyd, lle mae awch am fwyd yn deimlad o eisiau bwyd. Yn aml mae’r teimlad yma’n diflannu os ydym yn tynnu ein sylw i ffwrdd gyda rhywbeth oni bai am fwyd. Amser i ddod o hyd i’r hen gêm o’r llofft neu ffilm Nadoligaidd da!

  1. Cadw’n heini

Does dim angen paratoi i redeg marathon neu hyd yn oed ymweld â’r gampfa i gadw’n heini. Mae taith gerdded braf i'r teulu yn ffordd wych o gael awyr iach a dechrau symud. Os yw’r tywydd yn rhewllyd, mae’n bosibl bydd y rhai sy’n eiddil fod mewn perygl o gwympo felly ceisiwch rai ymarferion corff o’r gadair, sydd ar gael ar wefan y GIG, neu ddechreuwch gêm o charades.  

Os hoffech ddechrau ar eich siwrne i ffordd iachach o fyw, ond nad ydych yn gwybod sut, ewch i dudalennau Byw a Theimlo'n Dda ar wefan GIG 111 Cymru am awgrymiadau a chyngor.

Rhannu:
Cyswllt: