Mae Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gofyn i’r cyhoedd gadw’n ddiogel a defnyddio 999 yn gyfrifol Nos Galan eleni.
Cyn un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn, mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn i bobl gymryd y rhagofalon canlynol i gadw eu hunain yn iach -
Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae Nos Galan yn draddodiadol brysur iawn i ni ac mae’n debygol na fydd eleni yn eithriad o ystyried lefel y galw yr ydym wedi’i weld hyd yn hyn y mis hwn. Roedd nifer y galwadau 'Coch' lle mae bywyd yn y fantol yr ydym wedi'u cael yn ystod y saith niwrnod diwethaf 62% yn uwch na'r un cyfnod y llynedd, tra bod y galw ar ein gwasanaeth 111 wedi mwy na dyblu o gymharu â'r llynedd.
“Mae’r system iechyd dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i sicrhau ein bod yn diogelu ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf – gweithredwch yn gyfrifol a helpwch ni i’ch helpu.
“Cofiwch fod 999 ar gyfer argyfyngau felly os nad yw’n argyfwng ond bod angen cymorth meddygol arnoch neu eisiau sicrwydd, gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf am gyngor, gwybodaeth a’r camau nesaf.”
Gydag ymosodiadau ar weithwyr brys hefyd yn parhau i gynyddu, mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn i'r cyhoedd drin criwiau gyda pharch.
Dywedodd Judith: “Ar adeg pan fydd llawer o bobl yn mwynhau llawenydd y tymor ac yn yfed alcohol, cofiwch drin ein gweithwyr ambiwlans â pharch. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n ofidus pan rydych chi'n aros am help, ond nid cam-drin y rhai sy'n delio â galwadau yw'r ateb - os rhywbeth, fe allai achosi oedi gyda chymorth. Ac ar y ffordd, efallai nad oes gan griwiau unrhyw ddewis ond gadael golygfa os yw eu diogelwch yn cael ei beryglu, ac nid yw hynny o gymorth i unrhyw un, yn enwedig y claf.
“Mae gweithwyr brys yn fodau dynol normal dim ond yn ceisio gwneud swydd - maen nhw yno i'ch helpu chi, felly cofiwch eu trin â'r parch maen nhw'n ei haeddu.
“Dymunwn noson bleserus ac iechyd i bawb yn y flwyddyn i ddod.”
----
Cyhoeddwyd 29/12/22