Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Gyfleusterau Profi Gyrru Drwodd yn Ne a Chanolbarth Powys

Er mwyn cefnogi ein rhaglen brofi COVID-19 ledled y sir, bydd y cyfleuster profi gyrru drwodd yn adleoli o Faes Sioe Brenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt i Aberhonddu o ddydd Llun 26 Hydref.

Wedi'i leoli ym Maes Parcio Watton, Aberhonddu, Powys LD3 7EE, bydd yr uned ar agor bob dydd, 9.30yb-4.30yp.

Gwneir y profion trwy apwyntiad yn unig.

Gellir bwcio apwyntiadau ar-lein ar www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119.

Cofiwch, symptomau pwysicaf coronafirws (COVID-19) yw dyfodiad un neu fwy o'r canlynol yn ddiweddar:

  • peswch parhaus newydd
  • tymheredd uchel
  • colli neu newid yn eich synnwyr arogli neu flas arferol (anosmia)

I'r rhan fwyaf o bobl, bydd coronafirws (COVID-19) yn salwch ysgafn. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw un o'r symptomau uchod mae'n rhaid i chi hunan-ynysu gartref am o leiaf 10 diwrnod o'r adeg y cychwynnodd eich symptomau a threfnu i gael prawf i weld a oes gennych COVID-19.

Peidiwch â mynd i feddygfa meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.

Mae'r cyfleuster profi yn Llanfair-ym-muallt yn cael ei adnewyddu ac mae disgwyl iddo ailagor ym mis Tachwedd. Mae gan Bowys hefyd gyfleuster profi drwodd yn y Drenewydd.

Efallai y byddai'n well gan bobl sy'n byw ar ffiniau Powys hefyd gael mynediad at gyfleusterau profi mewn siroedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr.

Gellir bwcio apwyntiadau yn y Drenewydd, Aberhonddu a chyfleusterau gyrru drwodd cyfagos ar-lein sr www.gov.uk/get-coronavirus-test neu dros y ffôn ar 119

Rhannu:
Cyswllt: