Neidio i'r prif gynnwy

#NewidiadauNeuaddNevill - Llyfryn Gwybodaeth

Dadlwythwch y llyfryn gwybodaeth

O 17 Tachwedd, mae’r gwasanaethau yn Ysbyty Neuadd Nevill yn newid. Gallai'r newidiadau hyn effeithio arnoch chi os taw Ysbyty Neuadd Nevill yw eich Ysbyty Cyffredinol agosaf.

Daw’r newidiadau hyn gan fod Ysbyty Athrofaol y Faenor, ger Cwmbrân, wedi agor pedwar mis yn fuan. Mae’r ysbyty wedi’i hagor yn gynnar i sicrhau bod ein GIG yn barod ar gyfer yr heriau COVID-19 ychwanegol y gaeaf hwn.

Bydd Neuadd Nevill yn parhau i gynnig amrywiaeth eang o apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a gweithdrefnau cynlluniedig.

Ond ni fydd bellach yn cynnig gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg ymgynghorol, gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol dan arweiniad meddyg ymgynghorol na gwasanaethau plant dan arweiniad meddyg ymgynghorol. Bydd y gwasanaethau hyn yn parhau i fod ar gael i chi mewn ysbytai eraill yma yng Nghymru ac mewn siroedd ffiniol yn Lloegr.

Er enghraifft, i’r rhan fwyaf o bobl, os mai Nevill Hall yw eu hysbyty Damweiniau ac Achosion Brys agosaf ar hyn o bryd, eu hysbyty agosaf yn y dyfodol fydd Ysbyty’r Tywysog Siarl (Merthyr Tudful).

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi llunio llyfryn gwybodaeth sy'n cynnwys yr holl wybodaeth am y newidiadau hyn i sicrhau eich bod chi'n gallu cyrchu'r gofal cywir, ar yr amser iawn ac yn y lle iawn.

Bydd copïau'n cael eu danfon i aelwydydd ar draws de a chanolbarth Powys o ddechrau mis Tachwedd.

Mae hefyd ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn www.biap.gig.cymru/neuadd-nevill

 


 

Rhannu:
Cyswllt: