Neidio i'r prif gynnwy

Offer newydd i brofi swyddogaeth yr ysgyfaint wedi'i osod yn Ysbyty Bronllys

Bellach mae cleifion yn ne'r sir yn gallu cael profion o swyddogaeth lawn yr ysgyfaint yn lleol diolch i osod darn newydd o offer profi.

Mae'r Plethysmograff Corff (neu Bocs y Corff) gwerth £42,000 wedi'i osod yn Ysbyty Bronllys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a bydd yn lleihau’r angen i gleifion deithio yn ogystal â lleihau amseroedd aros.

Esboniodd Kimberley Lewis, Ffisiolegydd Anadlol Arbenigol: "Fel arfer, byddai claf wedi mynd i weld ei feddyg teulu, yna ymgynghorydd - oedd fel arfer dros y ffin - ac yna'n cael ei atgyfeirio at ysbyty yn Lloegr ar gyfer profion swyddogaeth yr ysgyfaint".

Nawr, gall ymgynghorwyr sy'n rhan o ofal unrhyw glaf BIAP nawr atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol ar gyfer profion o swyddogaeth yr ysgyfaint yn eu bwrdd iechyd cartref.

Y gobaith yw y bydd newid yn y llwybr yn y dyfodol yn galluogi meddygon teulu i atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol at brofion felly mae'r profion yma ym Mronllys yn barod ar gyfer yr ymgynghorydd pan maen nhw'n gweld y claf mewn clinig.

"Felly gan fod modd gwneud y ddau gam cyntaf yn y sir, bydd hyn yn lleihau faint o deithio y mae angen i glaf ei wneud ac, gan ein bod wedi ychwanegu capasiti i'r system, gallwn gwtogi'r amser cyn y gellir rhoi apwyntiad ymgynghorol i gleifion," ychwanegodd.

Gall y bocs corff brofi am ystod o swyddogaethau'r ysgyfaint gan gynnwys y gwrthiant neu gulhau o fewn y llwybrau anadlu a chyfanswm yr aer y tu mewn i'r ysgyfaint. Mae hyn yn cynnwys faint o aer y gall claf anadlu i mewn ac allan, a'r swm sy'n weddill y tu mewn i'r ysgyfaint pan fydd y claf wedi chwythu popeth allan. Mae'r rhain yn brofion hanfodol ar gyfer trin cyflyrau fel asthma, bronciectasis a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint neu COPD. Gofynnir iddynt hefyd gan arbenigeddau eraill, gan gynnwys cardioleg a rhiwmatoleg, i wirio nad yw meddyginiaethau'n effeithio ar yr ysgyfaint.

Mae defnyddio'r offer yn driniaeth ddi-boen, gyda'r claf yn eistedd o fewn yr uned gyda 'peg' ar y trwyn wrth iddo anadlu i mewn i'r uned mewn amrywiaeth o ffyrdd, dan arweiniad y ffisiolegydd.

Ychwanegodd Kimberley: "Nid oes angen i gleifion boeni am gael eu cau i mewn i’r bocs chwaith oherwydd gallwn adael y drws ar agor pe byddai'n well ganddyn nhw yn y rhan fwyaf o achosion. Bydd y ffisiolegydd sy'n perfformio'r prawf bob amser yn cefnogi, yn helpu ac yn arwain unrhyw glaf a welwn i sicrhau'r canlyniadau gorau wrth wneud y driniaeth mor gyffyrddus â phosibl."

Mae'r gwasanaeth hefyd bellach yn gweithio ar gynlluniau i osod ail uned yng ngogledd y sir.

Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaethau a gynigir gan Wasanaeth Ffisioleg Anadlol a Chwsg yn https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-anadlol-cymunedol/

 

 

Llun: Yn y llun mae Kimberley Lewis, Ffisiolegydd Anadlol Arbenigol (blaen) yn gweithredu'r Bocs Corff tra bod ei chydweithiwr Rhodri Curtis, Ffisiolegydd Anadlol Clinigol, yn chwarae rôl claf.

 

Rhannu:
Cyswllt: