Neidio i'r prif gynnwy

Offer Pelydr-X newydd i Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng

Mae buddsoddiad gwerth £1.7 miliwn mewn offer pelydr-X digidol newydd wedi'i gyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd yr offer newydd yn cynhyrchu delweddau yn gyflymach ac yn gliriach nag erioed, gan helpu gwella diagnosteg i bobl Powys. 

Yn ogystal â darparu canlyniadau cyflymach a diagnosis mwy cywir, bydd hefyd yn helpu lleihau amseroedd aros ar gyfer pelydrau-X a fydd yn ei dro yn gwella mynediad at driniaeth.

Bydd yr offer newydd yn cael ei osod mewn dau gam, gyda'r cam cyntaf yn dechrau ar 12 Tachwedd 2024 yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng.

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd wrth i ni gyflawni'r gwelliannau hyn.”

"Bydd disodli'r offer pelydr-X ym mhob safle yn cymryd tua 8 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn bydd angen i ni gau'r adrannau pelydr-X yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng a chynnig apwyntiad i chi yn un o'n hysbytai cymunedol eraill."

"Ni fydd gwasanaethau radioleg eraill yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng fel uwchsain yn cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod hwn a byddant yn parhau i fod ar gael."

Unwaith y bydd y cam cyntaf wedi'i gwblhau, bydd ail gam ailosod offer pelydr-x yn dechrau ddechrau mis Ionawr.

Aeth Claire Madsen yn ei blaen i ddweud:

"Os cewch eich atgyfeirio am belydr-X gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud, yna bydd ein tîm trefnu apwyntiadau yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad yn y lleoliad amgen agosaf.

"Os oes gennych Fân Anaf yna rydym yn parhau i'ch annog chi i Ffonio'n Gyntaf am gyngor clinigol. Bydd ein tîm clinigol yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn i'ch helpu chi gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch."

Yn ogystal â'r ansawdd a'r cyflymder gwell, mae'r peiriannau pelydr-X newydd hyn yn defnyddio dos is o ymbelydredd na'r peiriannau presennol, sydd yn ei dro yn lleihau amlygiad ymbelydredd i gleifion.

Rhannu:
Cyswllt: