Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau creadigol ar gael i bobl ym Mhowys sydd mewn profedigaeth, wedi'u heffeithio gan neu wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad

Siâp cwmwl glas yn y cefndir gyda thestun gwyn: allan o

A ydych mewn profedigaeth, wedi’ch heffeithio, neu wedi dod i gysylltiad â HUNANLADDIAD?

A fyddech chi’n hoffi cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a gefnogir, ochr yn ochr ag eraill sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, gyda’r bwriad o’ch helpu chi i ymdopi gyda galar?

Mae out of the BLUE yn cynnig sesiynau creadigol positif dan arweiniad pobl broffesiynol i bobl ym Mhowys, gyda’r ffocws ar gyflwyno profiadau tyner i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol, garddio ymarferol a gwneud crefftau traddodiadol.  

Cynhelir y sesiynau yng: -

Nghanolfan Gelfyddydol Canolbarth Cymru , Caersws

10:00 - 15:00 awr  ar ddydd Llun 31 Hydref, dydd Mawrth 01

a dydd Mercher 02 Tachwedd 2022

Ymddiriedolaeth Fathom , Bwlch, Brycheiniog

10:00 - 15:00 awr ar ddydd Mercher 02, 09 & 16 Tachwedd 2022

Mae CROESO i bawb, mae’r lleoedd AM DDIM, darperir lluniaeth ac rydym yn anelu at gynnig unrhyw gefnogaeth y byddwch ei angen o bosibl o flaen llaw ac ar y dydd i’ch galluogi i fynychu.

Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle, anfonwch e-bost at PTHB.CreativeArts@wales.nhs.uk  neu ffoniwch 01874 442030

Ewch ati i gadw eich lle erbyn dydd Llun 25 Hydref 2022 – rydym yn edrych ymlaen at croesawu

 

Mae out of the BLUE yn cynnig profiadau celfyddydol ysbrydoledig ac ystyrlon i bobl sy’n profi galar a phrofedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad gyda’r nod o leddfu poen ac adfer gobaith/ cadarnhau gwerth bywyd trwy fynegiant creadigol. 

Mae out of the BLUE yn cynnwys rhaglen o ymyriadau celfyddydol sy’n cynnwys cyfres o sesiynau difyr dan arweiniad artistiaid sy’n canolbwyntio ar y cyfranogwr.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy’n arwain prosiect out of the BLUE,  a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring gyda chefnogaeth partneriaeth oddi wrth Gyngor Sir Powys.

Mae eich profiad o lygad y ffynnon a’ch ymgysylltiad â’r prosiect yn gallu ein helpu ni i ffurfio model cefnogi holistig ar gyfer y dyfodol i ddiwallu eich anghenion chi ac anghenion pobl eraill wrth siapio gwasanaethau sydd dan arweiniad defnyddwyr.

Gallwch ein helpu ni i helpu eraill trwy rannu eich profiadau a chyfrannu tuag at ddatblygiadau wrth gynllunio gwasanaethau cefnogol.

 

Cyhoeddwyd: 19/10/2022