Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch ag ymweld â'r ysbyty gyda symptomau'r ffliw, y dolur rhydd neu chwydu

Mae'r GIG ym Mhowys yn gofyn i bobl beidio ag ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty os ydynt yn sâl, wedi bod yn sâl yn y 48 awr ddiwethaf, neu wedi bod mewn cysylltiad â phobl â dolur rhydd, chwydu neu symptomau tebyg i’r ffliw yn ystod y dyddiau diwethaf.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Ar hyn o bryd rydym yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dal y feirws ffliw o fewn ein cymunedau lleol.

"Er bod y ffliw yn gallu bod yn gas iawn, bydd fel arfer yn gwella heb yr angen i weld meddyg neu fynd i'r ysbyty. Ond mae'n salwch heintus iawn, felly rydym yn annog pobl sydd â symptomau i gadw draw o'r ysbyty i helpu atal y feirws rhag lledaenu.

"Mae gan ymwelwyr ysbyty rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth atal lledaeniad yr haint, felly os ydych chi, neu rywun yn eich cartref, yn sâl gyda symptomau tebyg i'r ffliw, dolur rhydd, chwydu neu unrhyw gyflwr heintus arall, ni ddylent ymweld â ffrindiau neu berthnasau yn yr ysbyty a dylent sicrhau eu bod wedi bod yn glir o unrhyw symptomau am o leiaf 48 awr cyn ymweld."

Gall symptomau'r ffliw ddatblygu'n gyflym iawn a gallant gynnwys:

  • tymheredd uchel sydyn
  • corff poenus
  • teimlo'n flinedig neu’n ôr-flinedig
  • peswch sych
  • llwnc tost
  • pen tost
  • anhawster cysgu
  • dim chwant bwyd
  • y dolur rhydd neu boen yn y stumog
  • teimlo eich bod yn mynd i chwydu, neu yn chwydu


"Rwy'n annog pawb i sicrhau bod gennych gabinet meddyginiaeth llawn gartref. Gall hanfodion cabinet meddyginiaeth fel paracetamol neu ibuprofen helpu gostwng eich tymheredd a thrin poenau. Mae cyngor defnyddiol ar gael ar wefan GIG 111 Cymru, ac mae eich fferyllydd cymunedol lleol yn ffynhonnell ardderchog o gyngor a thriniaethau," ychwanegodd Mererid.

"Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu rheoli eu symptomau gartref, heb weld meddyg, drwy orffwys digon, cadw'n gynnes ac yfed digon o ddŵr.

"Ond mae'r ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn i rai pobl, a brechu yw'r amddiffyniad gorau."

Mae unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim y gaeaf hwn, sydd heb drefnu eu hapwyntiad eto, hefyd yn cael eu hannog i gael eu brechu nawr.

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw yn cynnwys:

  • pobl 65 oed a throsodd
  • unrhyw un mewn grŵp risg clinigol, pobl sy'n imiwnoataliedig
  • menywod beichiog
  • pobl ag anableddau dysgu
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gofalwyr
  • plant rhwng 2 a 3 oed
  • plant oed ysgol gynradd ac uwchradd

Mae brechiad rhag y ffliw ar gael o hyd gan rai meddygfeydd, ac o fferyllfeydd cymunedol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn biap.gig.cymru/ffliw

Sut i ofalu amdanoch chi’ch hun os oes gennych ffliw:

  • gorffwys a chwsg
  • cadw’n gynnes
  • cymryd paracetamol neu ibuprofen i ostwng eich tymheredd a thrin poenau
  • yfed digon o ddŵr i osgoi dadhydradu (dylai eich wrin fod yn lliw melyn golau neu'n glir)


I leihau’r ffliw rhag lledaenu:

  • golchi eich dwylo'n aml gyda dŵr cynnes a sebon
  • defnyddio hances bapur i ddal germau pan fyddwch yn peswch neu’n tisian
  • rhoi hancesi papur yn y sbwriel mor sydyn â phosibl


I leihau heintiau’r dolur rhydd neu chwydu rhag lledaenu:

  • golchi eich dwylo'n aml gyda dŵr cynnes a sebon
  • golchi unrhyw ddillad neu ddillad gwely sydd â charthion neu chwydu arno ar wahân ar dymheredd poeth
  • glanhau seddi toiled, handlenni fflysio, tapiau, arwynebau a handlenni drysau bob dydd
  • peidiwch â pharatoi bwyd i bobl eraill os yn bosibl
  • peidiwch â rhannu tywelion, gwlaneddau, cyllyll neu ffyrc
  • peidiwch â defnyddio pwll nofio tan o leiaf 48 awr ar ôl i'ch symptomau ddod i ben.