Neidio i'r prif gynnwy

Pen-blwydd Hapus GIG

Dros y 72 mlynedd ddiwethaf, mae’r GIG wedi bod yno i bob un ohonom, yn lleddfu ein poenau; yn ein rhoi yn ôl at ein gilydd ar ôl cael damweiniau ac anafiadau; yn tawelu ein meddyliau cythryblus ac yn darparu cymorth yn ystod ein cyfnodau tywyllaf – ac nid oes unrhyw gyfnod wedi bod yn dywyllach na’r misoedd diwethaf.
 
Ddydd Sul, (5 Gorffennaf) bydd cyfle inni edrych yn ôl dros fisoedd diwethaf y pandemig a diolch i’r degau ar filoedd o weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru sydd wedi peryglu cymaint i’n cadw ni’n ddiogel. Byddwn yn clapio unwaith eto, nid yn unig i’r nyrsys a’r doctoriaid, ond i’r gweithwyr gofal, y gweithwyr siopau, y glanhawyr, y gyrwyr danfon nwyddau, y casglwyr sbwriel a llawer iawn mwy.
 
Ond bydd hwn hefyd yn gyfle i gofio’r holl unigolion hynny a fu farw o’r coronafeirws a phawb sy’n galaru ar ôl colli anwyliaid.
 
Er gwaetha’r heriau dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn galonogol gweld y ffordd y mae ein cymunedau wedi dod ynghyd i gefnogi gweithwyr hanfodol a chefnogi ei gilydd. Rwy’n gwybod bob pawb sy’n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yn ddiolchgar am yr ymchwydd o gefnogaeth.
 
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r nifer fawr o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a oedd wedi ymddeol ond a ddychwelodd i weithio, ac i’r nifer o fyfyrwyr gofal iechyd a ymunodd â’r gweithlu.
 
Hoffwn hefyd ddiolch i bawb yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint i arafu lledaeniad y feirws drwy ddilyn y cyngor a chadw at y rheolau.
 
Yn ystod wythnosau cynnar y pandemig, daethom at ein gilydd bob wythnos i ddiolch i’r gweithwyr hanfodol. Rwy’n eich gwahodd i wneud hynny unwaith eto ddydd Sul am 5pm, i gymeradwyo’r ymrwymiad a’r dewrder y mae llawer wedi ei ddangos a’r aberth y maent wedi ei wneud.
 
Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – nid yw’r pandemig wedi dod i ben. Ond mae’r ffordd y mae pawb wedi ymateb mor amyneddgar, hwyliog a phenderfynol i wneud y peth iawn yn fy narbwyllo y byddwn yn parhau i ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.
Rhannu:
Cyswllt: