Neidio i'r prif gynnwy

Pen-blwydd Hapus Rhaglen Frechu Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dathlu pen-blwydd cyntaf ei raglen frechu COVID-19 ledled y sir.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl derbyniodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ei gyflenwadau cyntaf o frechlyn COVID-19, llai nag wythnos ar ôl i'r Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) gymeradwyo'r brechlyn Pfizer/BioNTech i'w ddefnyddio yn y DU.

Dywedodd Adrian Osborne, Cyfarwyddwr Rhaglen Frechu COVID-19 i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Ar ôl wythnosau o gynllunio dechreuodd rhaglen frechu COVID-19 ar 8 Rhagfyr 2020, gyda’n clinig cyntaf yn agor ym Mronllys.

“O fewn wythnos, agorodd clinigau yn y Drenewydd, yn Park Street i gychwyn cyn symud i Ganolfan Hamdden Maldwyn yn Ionawr pan agorodd ein canolfan ar Faes y Sioe. Wrth weithio gyda’i gilydd mae'r tri chlinig hyn yn parhau i fod wrth wraidd i’n rhaglen frechu lwyddiannus yn y sir.

"Ers hynny rydym wedi llwyddo i weinyddu dros chwarter miliwn dos o'r brechlyn COVID-19. Mae staff y bwrdd iechyd wedi treulio miloedd o oriau ar rhaglen hon, gyda chefnogaeth gan ein gwirfoddolwyr anhygoel a'n holl sefydliadau partner.

“Ond yn bwysicach oll rydym wedi cael cefnogaeth wych gan bobl Powys, sydd wedi dod allan eu miloedd, ac yn dal i wneud heddiw am eu dosau atgyfnerthu.

“Mae’r ymrwymiad gan, ac i’r sir yn braf i’w gweld. Diolch.” 

 

Cyhoeddwyd: 10/12/2021

Rhannu:
Cyswllt: