Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Aelodau Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Logo BIAP ar gefndir glas

Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau benodiad i Fwrdd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ymunodd Steve Elliott â ni ddiwedd mis Ebrill fel Aelod Annibynnol (Cyllid). Mae Steve wedi meddu ar ystod o uwch rolau arwain ym maes cyllid y sector cyhoeddus, gan gynnwys yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyllid Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae Steve wedi cael ei benodi am gyfnod o bedair blynedd. 

Ymunodd Mick Giannasi â'r Bwrdd ym mis Mawrth ar benodiad tymor penodol hyd at fis Awst 2024, hyd nes y bydd aelod annibynnol sylweddol yn cael ei recriwtio maes o law. Cafodd Mick yrfa nodedig yng ngwasanaeth yr heddlu ac roedd yn meddu ar sawl swydd uwch yng Nghymru a Lloegr. Ers gadael yr heddlu, bu’n gweithredu mewn sawl rôl llywodraethu ym meysydd iechyd, gofal a llywodraeth leol, ac ar hyn o bryd mae'n gadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd ei arbenigedd a'i wybodaeth yn helpu cryfhau llywodraethu da ein sefydliad ymhellach.

Dr Carl Cooper, Cadeirydd

 

Mae rhagor o wybodaeth am aelodaeth bresennol y Bwrdd ar gael ar ein gwefan.  

 

Rhyddhawyd: 25/04/2024

Rhannu:
Cyswllt: