Neidio i'r prif gynnwy

Penodi cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru i rôl iechyd uwch ym Mhowys

Cyhoeddi Kirsty Williams CBE fel Is-gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Llwyodraeth Cymru wedi cadarnhau penodiad Kirsty Williams CBE fel ei Is-gadeirydd newydd.

Yn croesawu’r newyddion, dywedodd Vivienne Harpwood, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd: "Rwy'n falch iawn bod Kirsty yn ymuno â ni. Mae ganddi brofiad helaeth fel eiriolwr hirsefydlog dros bobl Powys fel gwas cyhoeddus a chyn-Weinidog Llywodraeth Cymru.

"Bydd yn fuddiol iawn i'r Bwrdd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi ymhen y misoedd a’r blynyddoedd i ddod wrth i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys lywio rhai o'r heriau anoddaf y mae'r GIG yng Nghymru wedi'u hwynebu erioed."

Dywedodd Kirsty Williams: "Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar yr adeg hollbwysig hon wrth i'n gwasanaethau iechyd barhau i ymateb i argyfwng iechyd mwyaf ein hoes ac yn ceisio sicrhau llwybr at adferiad o'r aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig."

Kirsty Williams yw olynydd Melanie Davies, a wasanaethodd ar y Bwrdd o fis Rhagfyr 2013, ac fel Is-gadeirydd rhwng Mehefin 2014 tan Rhagfyr 2021.

Rhannu:
Cyswllt: