Neidio i'r prif gynnwy

Galwad frys i bobl ddod ymlaen am brofion COVID yn y Drenewydd a'r ardaloedd cyfagos

Graffig testun: Mae achosion COVID yn codi yn y Drenewydd. Cael prawf nawr hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau.
*MAE'R CYFLEUSTER HWN BELLACH WEDI CAU*

Yn dilyn cynnydd sydyn mewn achosion o COVID yn y Drenewydd dros y dyddiau diwethaf mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn ailagor y Ganolfan Brofi Asymptomatig yng Nghanolfan Ddydd Stryd y Parc yn y Drenewydd o ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf.

Mae'r cynnydd sydyn mewn achosion yn y Drenewydd wedi arwain at yr ardal yn cyrraedd cyfraddau achosion o dros 500 fesul 100,000.

Mae symptomau COVID yn amrywio o ddifrifol iawn i'r rhai sydd heb unrhyw syniad bod ganddynt y feirws. Gall y rhai heb unrhyw symptomau heintio eraill heb sylweddoli.

Gofynnwn i gynifer o bobl â phosibl dod ymlaen i gael eu profi. Mae canolfan Stryd y Parc yn gallu cynnal profion COVID cyflym ar gyfer unrhyw un sydd heb unrhyw symptomau o COVID. Mae'n gyflym ac yn hawdd iawn; dim ond ychydig funudau y mae'r prawf yn ei gymryd a bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon drwy neges destun mewn hanner awr.

Bydd y ganolfan brofi ar agor rhwng 11.30yp a 5.30yp saith diwrnod yr wythnos o ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf.

Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i wisgo gorchuddion wyneb ac yn dilyn y canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am brofi ym Mhowys yma.

Rhannu:
Cyswllt: