Neidio i'r prif gynnwy

Pum awgrym ar gyfer mwynhau Nadolig heb straen

Mae'n dymor o ewyllys da, amser i lawenydd - ond gall y Nadolig hefyd olygu llwyth o straen. Mae blaenoriaethu eich iechyd meddwl yn allweddol i fwynhau Nadolig heddychlon a boddhaol. Bydd y pum awgrym hyn yn eich helpu chi lywio'r tymor gyda thawelwch, cydbwysedd ac ychydig o oleuni ychwanegol.

 

Gosod disgwyliadau realistig


Gall ymdrechu am Nadolig sy’n ymddangos yn berffaith greu pwysau diangen a straen ariannol diangen. Y gwir amdani yw, yn anaml y gellir cyflawni perffeithrwydd - sy'n iawn! Osgowch bryderon am arian drwy gadw at gyllideb. Canolbwyntiwch yn hytrach ar yr hyn sy'n wirioneddol ystyrlon i chi, boed hynny’n treulio amser o ansawdd da gydag anwyliaid neu'n mwynhau diwrnod clyd gartref. Gadewch fynd o'r hyn nad yw'n fuddiol i’ch lles, megis traddodiadau cymhleth ac anrhegion drud na allwch eu fforddio.

 

Dysgu pryd i ddweud ‘na’


Mae'r Nadolig yn aml yn golygu gwahoddiadau ac ymrwymiadau diddiwedd, ac mae'n hawdd teimlo ein bod ni’n cael ein hymestyn yn denau. Treuliwch foment yn rhestru pwy a'r hyn rydych chi wir eisiau dweud ie iddynt - ac anelwch at ymrwymiadau sy'n dod â llawenydd a heddwch i chi. Ar yr ochr arall, crëwch restr "na" ar gyfer gweithgareddau neu rwymedigaethau sy'n dod ar draul eich egni. Dydy gosod ffiniau ddim yn hunanol, mae'n hunanofal.

 

Ailddarganfod rhyfeddod plentyndod


Ailgysylltwch â phleserau syml y Nadolig yr ydym yn aml yn eu hanwybyddu fel oedolion. Boed yn gwylio ffilmiau clasurol, creu addurniadau, neu ychydig o bobi, gall y gweithgareddau bach, llawen hyn ddod â chynhesrwydd ac eich helpu chi ymlacio. Mae cymryd rhan mewn gemau a hwyl i'r teulu yn lleihau straen ac yn eich helpu chi aros yn bresennol yn y foment.

 

Cysylltu, dim cymharu


Gall cyfryngau cymdeithasol pwysleisio straen y Nadolig trwy wneud i chi deimlo nad ydych chi'n gwneud digon neu ddim yn cael cymaint o hwyl ag eraill. Rhowch gorau ar y sgrolio ac yn hytrach canolbwyntiwch ar gysylltiadau ystyrlon. Ffoniwch hen ffrind, ymunwch â digwyddiad cymunedol lleol, neu treuliwch amser gyda'ch teulu.  Mae gwir gysylltiad yn meithrin hapusrwydd. Mae cymhariaeth dim ond yn ychwanegu at orbryder.

 

Trefnu "Tawel Nos"
 

Neilltuwch amser ar gyfer tawelwch. Diffoddwch y dyfeisiau hynny, cynnwch gannwyll, a gadewch i'ch hun ymlacio. Os ydych chi'n treulio'r amser hwn yn ysgrifennu yn eich dyddiadur, darllen neu’n myfyrio ar yr hyn rydych chi'n ddiolchgar amdano, gall dod o hyd i eiliadau o lonyddwch eich helpu chi ailwefru’ch batris.

Drwy gadw'r awgrymiadau hyn mewn cof, gallwch fwynhau Nadolig gyda llai o bwysau, a mwy o ganolbwyntio ar fod yn y presennol.

Os ydych chi'n teimlo'n llethol, gall cyrsiau ar-lein SilverCloud helpu, gydag offer ymarferol ar gyfer rheoli straen, gorbryder, hwyliau isel a mwy.

 

Dysgwch fwy am y gwasanaeth yma: SilverCloud – Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Cyhoeddwyd: 13/12/2024