Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi symud o "drefniadau arferol" i sefyllfa "monitro uwch” ar gyfer cynllunio a chyllid yn unol â’r Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd cenedlaethol ar y cyd.
Mae'r Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y Cyd yn broses genedlaethol lle mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i adolygu perfformiad Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru, ac yn rhannu statws uwchgyfeirio yn bedwar band:
Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Meddai Hayley Thomas, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
"Mae ein ffocws yn parhau i fod ar ddal ati i weithio gyda chleifion, cymunedau, staff a phartneriaid i gynnal gwasanaethau o ansawdd uchel a lleihau amseroedd aros gan sicrhau ein bod yn dychwelyd i sylfaen gynaliadwy.
"Mae'r statws uwchgyfeirio hwn yn adlewyrchu'r sefyllfa heriol iawn sy'n wynebu'r GIG ledled y wlad. Er enghraifft, yn ei adroddiad diweddar ar gyfrifon y GIG, mae'r Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton wedi tynnu sylw at y ffaith y gostyngodd cyllid refeniw iechyd yn y GIG yng Nghymru mewn termau real yn 2022-23 ar adeg pan oedd y gwasanaeth yn parhau i wynebu'r heriau o fynd i'r afael ag ôl-groniadau ac ymateb i bwysau gwasanaeth ar unwaith a phatrymau galw newydd.
"Mae'r GIG ar draws y wlad yn wynebu cyd-destun heriol iawn o ran cyllid a chynllunio, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein sefyllfa yma ym Mhowys:
"Mae ein hanes o gyflawni yma ym Mhowys yn rhoi hyder i mi y byddwn yn goresgyn yr heriau hyn, ond o ystyried costau cynyddol a’r galw cynyddol, mae angen i ni i gyd fod yn rhan o sgwrs agored a gonest gyda'r cyhoedd am sut olwg sydd ar y gwasanaeth iechyd a gofal yn y dyfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y GIG yng Nghymru."
Dr Carl Cooper, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Hayley Thomas, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae'r statws uwchgyfeirio ar gyfer pob corff y GIG yng Nghymru fel a ganlyn:
Bwrdd Iechyd |
Statws Blaenorol (Medi 2022) |
Statws Presennol (Gorffennaf 2023) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Trefniadau arferol |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ymyrraeth wedi'i thargedu ond fe'i huwchgyfeiriwyd i Fesurau Arbennig ym mis Chwefror 2023 |
Mesurau arbennig |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Monitro uwch ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd yn gysylltiedig â pherfformiad |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd |
Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Trefniadau arferol |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd |
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd |