Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) wedi lansio ymgyrch recriwtio i gryfhau ei Wasanaeth Deintyddol Cymunedol, gyda chyfleoedd newydd bellach ar agor i ddeintyddion a nyrsys deintyddol ymuno â'r tîm.
Mae'r swyddi – gan gynnwys rolau Swyddog Deintyddol a Nyrs Deintyddol – yn rhan o ymrwymiad parhaus BIAP i ddarpariaeth ddeintyddol y GIG ym Mhowys.
Dywedodd Warren Tolley, Cyfarwyddwr Deintyddol BIAP:
“Rydym yn uchelgeisiol yn ein cynlluniau i ehangu gwasanaethau deintyddol cymunedol ym Mhowys. Mae'r rolau newydd hyn yn fuddsoddiad pwysig yn ein Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, gan ein helpu ni gryfhau'r ddarpariaeth leol. Rydym yn chwilio am glinigwyr medrus a brwdfrydig sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau.”
Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Powys yn darparu ystod eang o ofal y GIG, gan gynnwys triniaeth arbenigol i bobl ag anghenion gofal ychwanegol, tawelyddu deintyddol, llawdriniaeth y geg a thriniaeth endodonteg. Ochr yn ochr â'r gwasanaethau arbenigol hyn, mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym Mhowys wedi bod yn ehangu i gynyddu'r ystod o wasanaethau triniaeth arferol i ategu'r rhai a ddarperir gan ddeintyddion y stryd fawr.
Mae'r ddwy swydd wag wedi'u lleoli yn Llandrindod ac maent bellach yn fyw ar wefan Swyddi'r GIG. Mae rhagor o wybodaeth a swydd ddisgrifiadau llawn ar gael yn:
Noder y gall dyddiadau cau newid.
Ychwanegodd Mr Tolley:
“Mae gweithio mewn Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gyfle gwych i weithwyr deintyddol proffesiynol sy’n awyddus i ehangu eu sgiliau. Byddwch chi'n gweithio yn un o rannau mwyaf prydferth y wlad fel rhan o dîm cefnogol i ddarparu gofal arbenigol i bobl ag anghenion cymhleth, ochr yn ochr â gofal deintyddol arferol i oedolion a phlant.
Bydd yr ymgyrch recriwtio yn cefnogi'r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth deintyddol cymunedol estynedig yn Llandrindod, gyda chadair ddeintyddol ychwanegol yn cael ei gosod fel rhan o waith uwchraddio gwerth £2.5m i Ysbyty Coffa Llandrindod .
Ynglŷn â'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym Mhowys
Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cael ei ddarparu a’i staffio gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae'n gweithio ochr yn ochr â deintyddion stryd fawr i ddarparu ystod o wasanaethau mwy arbenigol gan gynnwys tawelyddu deintyddol, deintyddiaeth bediatrig, deintyddiaeth gofal arbennig, llawdriniaeth y geg ac endodonteg. Ochr yn ochr â'r gwasanaethau mwy arbenigol hyn, mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn ehangu i gynnig gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol arferol.
Mae gan Wasanaeth Deintyddol Cymunedol BIAP gadeiriau yn y Trallwng, y Drenewydd, Machynlleth, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Aberhonddu ac Ystradgynlais ochr yn ochr â gwasanaeth deintyddol symudol.
Cynigir gwasanaethau deintyddol cyffredinol arferol i gleifion ar restr aros deintyddol y GIG. Gallwch ymuno â rhestr aros deintyddol y GIG ym Mhowys ar-lein drwy'r Porth Mynediad Deintyddol yn https://biap.gig.cymru/pmd
Darperir y gwasanaethau arbenigol a gynigir gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol trwy atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol meddygol a deintyddol eraill fel deintyddion, meddygon teulu, nyrsys, therapyddion.