Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen am ddim gan y GIG yn helpu pobl Powys i golli pwysau

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog pobl sydd ag indecs màs y corff (BMI) o dros 25 i gofrestru ar gyfer rhaglen rheoli pwysau ar-lein.

Rhaglen naw wythnos o dan arweiniad gweithwyr cymorth deietetig yw Bwyd Doeth am Oes, sy’n rhan o Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd Nicola Evans, sy’n 51 oed ac yn dod o Lanfair-ym-Muallt, y cwrs ym mis Chwefror ar ôl cael diagnosis ei bod yn ddiabetig:

“Fe wnaeth fy neietegydd ei argymell, dyma’r peth gorau erioed i fi. Ro’n i’n meddwl fy mod i’n deall beth oedd maeth, ond dw i wedi dysgu cymaint. Mewn deietau, rydych chi’n aml yn clywed am fwydydd pechod neu dwyllo, ond mae Bwyd Doeth am Oes yn canolbwyntio ar fwyta’n gall ac mae popeth yn iawn mewn cymedroldeb.

“Dw i hefyd wedi dechrau gwneud yr her Soffa i 5K y GIG dair gwaith yr wythnos a dw i wedi colli dros ddwy stôn ers dechrau rhaglen Bwyd Doeth am Oes.”

Mae colli pwysau wedi cael effaith enfawr ar ei hiechyd:

“Yn fy mhrawf gwaed diwethaf, ro’n i 10 pwynt lefel siwgr yn is. Dw i’n ôl i fy lefel cyn bod yn ddiabetig ac mae fy mhwysedd gwaed wedi gostwng hefyd. Fy nod erbyn hyn yw gwrthdroi’r diabetes. Dw i am golli dwy stôn arall a mynd yn ôl i faint 14.

“Mae Bwyd Doeth am Oes yn caniatáu i fi drafod pethau gyda phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa. Maen nhw’n deall beth rydych chi’n mynd drwyddo, ac er bod y rhaglen wedi dod i ben erbyn hyn, rydyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad â’n gilydd. Dw i hefyd yn mynd i’r sesiwn grŵp galw heibio bob wythnos os galla i. Byddwn yn bendant yn ei argymell i unrhyw un sydd â phroblem gyda’u pwysau. Dw i wir wedi’i fwynhau, a dw i’n awyddus i helpu pobl eraill.”

Esboniodd Karen Wilson, Deietegydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Drwy ganolbwyntio ar yr elfen ymddygiadol y tu ôl i arferion pobl, rydyn ni’n gallu eu cefnogi i wneud newidiadau cynaliadwy er mwyn cael buddion iechyd hirdymor heb deimlo eu bod yn cael eu hamddifadu o rywbeth, sy’n aml yn arwain at ddull o ymrwymo’n llwyr neu ddim o gwbl i ddeiet wrth golli pwysau.

“Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal am naw wythnos ond rydyn ni’n cynnig cymorth parhaus ymhell ar ôl i’r sesiynau ddod i ben.”

Mae ymgyrch Helpwch ni i’ch Helpu chi Llywodraeth Cymru yn taflu goleuni ar sut y gallwn fyw bywyd iachach. Drwy wneud nifer o ddewisiadau o ran ein ffordd o fyw, fel bwyta’n iach, bod yn egnïol a diogelu ein lles meddyliol, rydyn ni’n fwy tebygol o fyw’n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol.

Mae modd i oedolion ym Mhowys sydd â lefel BMI sy’n uwch na 25 hunangyfeirio i ymuno â’r rhaglen Bwyd Doeth am Oes. Mae’n cael ei chynnal ar-lein ac mae cymorth technoleg ddigidol ar gael os oes angen.

Os hoffech ddysgu rhagor am sut i golli pwysau mewn ffordd iach, i fod yn fwy egnïol, i newid arferion bwyta ac i oresgyn rhwystrau, ewch i: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-deieteg/

 

Rhannu:
Cyswllt: