Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gogledd Powys yn amlinellu 'model gofal a lles Integredig'

Mae Rhaglen Lles Gogledd Powys wedi cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer iechyd a lles ar ôl gwrando ar farn y trigolion.

Mae Model Gofal a Lles Integredig y rhaglen yn nodi gweledigaeth o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yng ngogledd y sir.

Lluniwyd y ddogfen (sydd i'w gweld yn http://www.powyswellbeing.wales/modelofcareandwellbeing?lang=cy) ar ôl clywed barn trigolion a phartneriaid, a gasglwyd drwy sesiynau 'gwrando' amrywiol yn 2019.

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys a bydd y gwaith yn cynnwys y ddau sefydliad a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol a sefydliadau partner i ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

Carol Shillabeer yw Prif Weithredwr y bwrdd iechyd.

Dywedodd: "Mae rhaglen Gogledd Powys yn gyfle i ni helpu i drawsnewid sut mae gwasanaethau'n cael eu cynnig yn y rhan hon o'r sir - drwy weithio gydag eraill mewn ffyrdd newydd a chyffrous, gallwn wneud ein rhan i helpu i wella iechyd a lles pobl, gweithio'n fwy clyfar, a lle bo'n bosibl, darparu mwy o ofal, yn agos at gartrefi pobl."

Mae'r Cynghorydd Myfanwy Alexander yn Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion gyda'r cyngor. Ychwanegodd: 'Rydym yn ymrwymedig i sbarduno newid, gan ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl mewn modd di-dor. Drwy gydweithio â'n partneriaid yn y Bwrdd Iechyd a broceru prosiectau llesiant mwy annisgwyl efallai gydag Agor Drenewydd neu Oriel Davies, rwy’n credu y gallwn ddod â gwelliant gwirioneddol i fywydau trigolion yr ardal.’

Roedd yr ymarferion gwrando yn gofyn i drigolion pa ffactorau roedden nhw’n eu hystyried yn bwysig ar gyfer eu cadw'n ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi neu yn eu cymuned, yn eu hardal neu eu rhanbarth a'r tu allan i'r sir.

Mae'r model yn mynd i'r afael â'r ymatebion hynny, gan nodi'r hyn y mae tîm y rhaglen yn ei ddeall sy'n bwysig i bobl leol o ran:

  • Canolbwyntio ar les;
  • Cymorth a chefnogaeth gynnar;
  • Mynd i'r afael â'r pedwar afiechyd mawr – Clefyd cylchrediad y gwaed, clefyd anadlol, canser a phroblemau iechyd meddwl;
  • Gofal cydgysylltiedig wedi'i integreiddio'n llawn.

Mae hefyd yn gwrthgyferbynnu sut y caiff gwasanaethau gofal a chymorth trigolion Powys eu darparu nawr a sut y gellid cyflawni hyn yn 2027 a thu hwnt. Mae'r astudiaethau achos yn ffuglennol ond yn seiliedig ar brofiadau cyfredol nodweddiadol.

Bydd y darn hwn o waith yn cael ei ddilyn gan waith ymgysylltu a datblygu pellach wrth i dîm y rhaglen lunio Achos Amlinellol Strategol ar gyfer y rhaglen gyfan a bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd yr Achos Amlinellol Strategol yn edrych ar sut y gellir datblygu campws yng nghanol y Drenewydd i gynnwys iechyd a gofal, addysg, tai â chymorth a chyfleusterau lles cymunedol. Fodd bynnag, byddai'r ganolfan hon yn gweithio i ategu'r gwasanaethau iechyd a gofal sydd ar gael mewn trefi eraill ar draws gogledd Powys.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael yn http://www.powyswellbeing.wales/?lang=cy

 

Rhannu:
Cyswllt: