Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr Wrth Gefn Brechu COVID ar agor

Bydd pob un o drigolion Powys sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu yn ystod ymgyrch Hydref 2023 yn derbyn llythyr i'w gwahodd i'w apwyntiad. 

Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad gan ein tîm ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys os ydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys. Os ydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu y tu allan i Bowys dylech dderbyn eich gwahoddiad o'r ardal lle rydych wedi cofrestru.

Efallai y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal yn;

  • Un o'n prif ganolfannau brechu ym Mronllys neu'r Drenewydd
  • Eich meddygfa
  • Clinig yn eich ysbyty cymunedol lleol

Os nad ydych wedi derbyn eich gwahoddiad ond yn gallu mynychu clinig ar fyr rybudd, gwiriwch a allwch ymuno â'n rhestr wrth gefn .

Rhannu:
Cyswllt: