Neidio i'r prif gynnwy

Ryseitiau Hwyl ar y Fwydlen i Ysgolion Powys

Person sy

Mae cynllun lleol yn gobeithio y bydd Brechdanau Corynnod a Spaghetti Dinosoriaid yn annog plant o bob rhan o Bowys i fwyta’n iach.

Mae'r ryseitiau creadigol hyn yn ymddangos mewn casgliad newydd o lyfrau sy'n cael eu rhannu gyda lleoliadau cyn-ysgol ac ysgolion ledled y sir i'w helpu i gynnal sesiynau coginio gyda phlant.

Bydd ysgolion a lleoliadau cyn-ysgol hefyd yn cael cyllyll sy'n addas i blant fel bod disgyblion ifanc yn gallu paratoi bwyd yn ddiogel yn ogystal â chael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein.

Mae'n gam gan Bach a Iach, y cynllun iach sy’n gwobrwyo lleoliadau cyn-ysgol a Chyfnod Sylfaen. Mae’r cynllun hefyd wedi derbyn cyllid gan Raglen Lles Gogledd Powys. Mae'r cynllun yn cefnogi’r cwricwlwm newydd ac yn cael ei amlygu gan ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r newidiadau bach y gall pobl eu gwneud i helpu diogelu a gwella eu lles.

Sarah Power yw'r Swyddog Cyn-Ysgolion Iach yn Nhîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Powys:

“Mae’n bwysig bod plant yn cael dechrau iach ym mywyd. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant datblygu llythrennedd corfforol, ond mae maeth yn rhan allweddol o fod yn iach felly hefyd yn hynod bwysig. Ar hyn o bryd, mae bron i chwarter o holl blant yng Nghymru yn dechrau ysgol yn ordew neu dros bwysau. Y newyddion da yw y gallwn weithio gyda’n gilydd i newid hyn a gwneud gwahaniaeth.

"Mae'r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru yn ein hannog i gymryd camau bach a syml i wella ein hiechyd a'n lles ac rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod am chwarae ein rhan wrth annog plant i fwyta deiet iach a chytbwys."

Mae Bach a Iach wedi cael help llaw Richard Shaw o Coginio ‘dan ‘gilydd i arwain hyfforddiant proffesiynol i staff cyn-ysgol ac ysgolion:

“Rydyn wedi bod yn gweithio gyda Bach a Iach ym Mhowys am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ein gweithgareddau wedi’u cynllunio i roi’r hyder i staff cyn-ysgol a chyfnod sylfaen i rannu gweithgareddau coginio iach gyda’u disgyblion yn llwyddiannus. Y gobaith yw bydd gan y disgyblion y sgiliau sydd angen arnyn nhw i ddilyn ffordd o fyw iach a hapus o oedran ifanc.” 

Am ryseitiau, fideos coginio gyda’n gilydd a syniadau ar gyfer bocsys bwyd iach, ewch i www.cookingtogether.co.uk/bachaiach

Os hoffech roi hwb i’ch siwrne at ffordd o fyw iachach, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, ewch i dudalennau Byw a Theimlo’n Dda ar wefan GIG 111 Cymru am awgrymiadau a chyngor. Mae pob newid y gwnewch chi yn helpu ni i’ch helpu chi.

 

Cyhoeddwyd: 07/03/22

Rhannu:
Cyswllt: