Neidio i'r prif gynnwy

Mae sgrinio'r ysgyfaint yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru yn dilyn llwyddiant menter 2025

Radiolegydd yn archwilio sgan digidol o

Yn Sioe Frenhinol Cymru 2025, cafodd mwy na 150 o unigolion sgrinio sbirometreg am ddim a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP). Mae prawf sbirometreg yn brawf anadlu cyffredin sy'n anelu at ganfod cyflyrau anadlol amrywiol, fel asthma a COPD.  

Roedd stondin BIAP yno dros bedwar diwrnod y sioe, gan ddarparu gwiriadau hygyrch ar iechyd yr ysgyfaint gan ddefnyddio offer arbenigol, ac ymgysylltu â chynulleidfa amrywiol a oedd yn cynnwys aelodau o'r gymuned amaethyddol. Oherwydd llwyddiant menter 2025, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd sgrinio'r ysgyfaint yn cael ei gynnig unwaith eto.

Prif Gyflawniadau o 2025

  • Cafodd 154 o fynychwyr eu sgrinio gan ddefnyddio sbirometreg
  • Roedd 38% (59 o gyfranogwyr) yn dod o broffesiynau amaethyddol.
  • Dangosodd 29% (45 o unigolion) ganlyniadau sbirometreg annormal.
  • Ymhlith y rhai mewn rolau amaethyddol, cafodd 32% ganlyniadau annormal, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwaith allgymorth wedi'i dargedu.

Cafodd pob cyfranogwr adborth ar unwaith, ac anfonwyd y rhai a oedd â chanlyniadau annormal at eu meddyg teulu i gael ymchwiliad pellach, gan gefnogi diagnosis ac ymyrraeth gynnar.

Cael Dylanwad

Y tu hwnt i'r data, creodd y digwyddiad gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer sgyrsiau ystyrlon am iechyd yr ysgyfaint, risgiau yn y gweithle, ac atal. Gyda dros 200,000 o bobl yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru yn gyffredinol, llwyddodd y fenter i godi ymwybyddiaeth ymhlith cynulleidfa eang a pherthnasol.

Mae'r gwaith hwn yn arbennig o bwysig o ystyried y risg uwch o gyflyrau'r ysgyfaint, fel COPD, asthma a niwmonitis gorsensitifrwydd, mewn lleoliadau amaethyddol. Mae canfod yn gynnar ac addysg yn parhau i fod yn allweddol i wella canlyniadau iechyd hirdymor.

 

Edrych tua’r Dyfodol

Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiad 2025, mae BIAP yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal sgrinio iechyd yr ysgyfaint yn Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd y stondin yn dychwelyd i lawr cyntaf Adeilad y Defaid, gyferbyn â Neuadd Morgannwg, ac wedi'i lleoli rhwng y Cylch Defaid a'r Ardaloedd Cneifio a Thrin Gwlân.

Er mwyn helpu mynd i'r afael â heriau hygyrchedd posibl, bydd y tîm yn defnyddio dyfeisiau symudol ac yn mabwysiadu dull gweithredu symudol ar draws y safle, gan alluogi ymgysylltu ag ystod ehangach o fynychwyr na fyddent efallai'n gallu cyrraedd lleoliad y stondin.

Yn nigwyddiad 2026, cynigir y canlynol i'r cyfranogwyr:

  • Sgrinio FeNO – ffordd ddiogel, gyflym ac anfewnwthiol o fesur llid yn y llwybrau anadlu, sy'n ei wneud yn offeryn gwerthfawr wrth wneud diagnosis a rheoli asthma.
  • Sgrinio sbirometreg – prawf anadlu anfewnwthiol sy'n mesur cyfaint a llif yr aer y gallwch ei anadlu i mewn ac allan.

Mae'r dull hyblyg a gwell hwn yn anelu at wneud y mwyaf o'r cyrhaeddiad, gwella hygyrchedd, a pharhau i gefnogi canfod yn gynnar ac ymwybyddiaeth o iechyd yr ysgyfaint ledled y gymuned.

Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud cynnydd tuag at ddiagnosis cynharach, gwell ymwybyddiaeth a chymunedau iachach.

Gallwch ddysgu mwy am gael mynediad at Wasanaethau Anadlol ym Mhowys yma: Gwasanaeth Ffisioleg Anadlol a Chwsg - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

Rhyddhawyd: 13/07/2026