Neidio i'r prif gynnwy

Sut i adnabod gamblo niweidiol

Delwedd o ben dyn mewn llaw gyda cherdyn banc yn y llaw arall yn edrych ar sgrin gliniadur.

Mae Gamban yn atalydd gwefannau gamblo arobryn, a ddarperir yn rhad ac am ddim trwy Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n poeni am eich gamblo, gallai atal mynediad i apiau a safleoedd fod yn un o'r camau cyntaf ar eich ffordd i adferiad. Cofrestrwch yma.

Yn y cyfamser, mae gan reolwr cyfryngau cymdeithasol a chynnwys Gamban - Kat Baker - gyngor defnyddiol ar nodi rhai o arwyddion gamblo niweidiol...

Mae gamblo wedi dod yn rhan annatod o gymdeithas. Dangosodd Arolwg Gamblo Prydain Fawr 2024 (GSGB) fod 62% o bobl yng Nghymru wedi gamblo yn ystod y deuddeg mis blaenorol. O ddiwrnod yn y rasys i hwyl yn y casino lleol, i lawer o bobl mae gamblo wedi'i blethu'n achlysurol i fywyd bob dydd. 

Ond beth sy'n digwydd pan fydd gamblo'n mynd o chwith?

Yng Nghymru, yn ôl y GSGB, nodwyd bod 4.1% o bobl a oedd yn gamblo yn 'gamblwyr problemus'.  Gydag apiau ffôn clyfar yn rhoi casino ym mhoced bron pawb, mae caethiwed i gamblo yn un o'r hawsaf i'w guddio - sydd hefyd yn golygu y gall fynd heb i neb sylwi arno a heb ei drin. 

Gall llawer o bobl fwynhau gamblo heb iddo achosi problemau, ond os yw gamblo rhywun wedi droi’n niweidiol, mae'n bwysig gwybod yr arwyddion. 

Pryderon ariannol

Un o'r arwyddion mwyaf amlwg yw cyllid ysbeidiol. Os yw rhywun yn cael trafferth talu costau byw sylfaenol un diwrnod ac yna'n ymddangos bod ganddo ddigon o arian ddiwrnod arall, gallai fod yn arwydd eu bod yn cael trafferth gyda gamblo. 

Celwydd

Mewn caethiwed gweithredol, mae pobl yn aml yn dweud celwydd i guddio eu harferion, er enghraifft ynglŷn â ble maen nhw wedi bod neu ble mae arian wedi mynd. Os byddwch chi'n sylwi ar batrymau neu ymddygiadau nad ydyn nhw'n cyd-fynd, gallai fod yn arwydd o broblemau dyfnach.

Bod yn gyfrinachol 

Gall gamblwr ddod yn gyfrinachol dros ei ffôn a'i ddatganiadau banc wrth iddo geisio cuddio maint y broblem. Mae eisiau preifatrwydd yn gwbl normal, ond gallai mynd allan o'r ffordd i guddio pethau fod yn arwydd rhybuddio. 

Methu cyfrifoldebau 

Weithiau, mae gamblo'n dod yn gwbl llethol, ac mae cyfrifoldebau eraill yn gallu llithro.  Gall diffyg hunanofal, colli digwyddiadau cymdeithasol neu gael trafferth yn y gwaith i gyd fod yn arwyddion o broblem sylfaenol. 

Dan straen 

Nid yw straen ac anniddigrwydd yn unig yn dynodi bod gan rywun broblem gyda gamblo - gallent fod oherwydd problemau eraill; ond os yw'r straen yn cyd-fynd ag arwyddion rhybuddio eraill, gallai ddangos bod angen help arnynt. 

Os ydych chi wedi sylwi ar rai neu'r cyfan o'r uchod mewn anwylyd, ffrind neu gydweithiwr, efallai ei bod hi'n bryd siarad â nhw am gamblo niweidiol.

Nid oes rhaid i chi gael yr holl atebion, ond gall sgwrs onest nawr fod yn gam enfawr tuag at adferiad. Darllenwch ein postiad blog ar sut i ddechrau sgwrs am gamblo niweidiol.

Mae digon o adnoddau ar gael i gefnogi rhywun sy'n profi niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Mae GIG Cymru yn darparu mynediad am ddim i 'Gofod rhag Niwed Gamblo', cwrs ar-lein i helpu gyda rheoli gamblo niweidiol. Does dim rhestr aros a does dim angen gweld Meddyg Teulu.

Cofrestrwch yma a dechreuwch arni heddiw.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Gamblo Cymru gyfan ar 0808 281 9265.

 

Cyhoeddwyd: 21/09/2026