Neidio i'r prif gynnwy

Trigolion Powys yn cael eu hannog i fanteisio ar y brechlynnau COVID-19

Dynes yn gorwedd ar soffa gyda

Trigolion Powys yn cael eu hannog i fanteisio ar y brechlynnau COVID-19 cyn diwedd y cynnig atgyfnerthu cenedlaethol ‘gadael neb ar ôl’ ar 31 Mawrth

Wrth i Lywodraeth Cymru rhoi diwedd ar gynnig brechlynnau COVID-19 cyffredinol, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog trigolion Powys sydd heb gael eu brechu i weithredu nawr.

Daw'r ple yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd y trydydd dos cyffredinol, a gynigiwyd i holl boblogaeth Cymru dros 16 oed ac i unigolion o bump oed o Hydref 2021, yn dod i ben ar 31 Mawrth. Bydd diwedd cwrs y brechlyn sylfaenol cyffredinol yn dilyn ar 30 Mehefin.

Dywedodd Nicola Benge, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Fe wnaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) argymhellion ar gyfer newidiadau i'r cynnig brechu cyffredinol 'gadael neb ar ôl' ar ddiwedd mis Ionawr.

"Yng Nghymru mae'r argymhelliad bellach wedi cael ei dderbyn, wrth i'r genedl symud o ymateb brys i bandemig COVID-19 i ffordd o’i reoli ar sail 'busnes fel arfer' sy’n fwy cynaliadwy. Felly, ym Mhowys, fel gweddill Cymru, byddwn yn dilyn argymhelliad y Gweinidog.

"Mae hyn yn golygu bydd cynnig cyffredinol y cwrs sylfaenol, dau ddos cychwynnol o'r brechlyn a gynigwyd o fis Rhagfyr 2020 i bob un o'r boblogaeth dros bump oed yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023. Bydd y dos atgyfnerthu cyffredinol hefyd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023."

O fewn Canolfannau Brechu Torfol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - sydd wedi'u lleoli yn Y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys – byddwn yn parhau i ddarparu brechlynnau COVID-19 ar sail 'galw heibio' hyd nes i’r cynigion ar gyfer y dos sylfaenol a’r dos atgyfnerthu cyffredinol dod i ben.

"Yn ogystal â'r brechlynnau COVID-19," ychwanegodd Nicola Benge, "Mae Canolfannau Brechu Torfol Powys hefyd yn cynnig brechiadau ffliw’r GIG am ddim ar sail galw heibio i bob oedolyn cymwys, gyda brechlynnau ffliw plant am ddim hefyd ar gael i bobl sy’n trefnu apwyntiad ymlaen llaw.

“Mae llawer o feddygfeydd y sir hefyd yn parhau i gynnig y brechlyn ffliw am ddim, felly mae'n well gwirio gyda'ch meddygfa leol rhag ofn bod eu cynnig amser a lleoliad nhw yn fwy addas ar gyfer eich amgylchiadau personol.

"Mae'n bwysig iawn bod pawb sydd mewn perygl uchel o ddatblygu cymhlethdodau difrifol o ganlyniad i’r Ffliw yn manteisio ar eu cynnig am frechlyn. Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol i bobl sydd â chyflwr iechyd hir dymor, pobl sy’n feichiog, neu bobl sy’n hŷn. Yn gyffredinol, mae'r bobl sydd mewn perygl o gymhlethdodau o ganlyniad i COVID-19 yr un bobl sydd mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn oherwydd y ffliw. Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc.

"Mae'r clefyd yn parhau i ledaenu, ac os ydych wedi manteisio ar y brechlynnau mae eich siawns o ddal haint difrifol yn lleihau’n sylweddol."

Os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iach, rydych chi'n fwy tebygol o gael cymhlethdodau o ganlyniad i’r ffliw. Yn yr achos hwn, rydym yn eich cynghori i gael y brechlyn ffliw os ydych yn bodloni un o’r canlynol:

  • Rydych chi’n feichiog.
  • Rydych chi’n 50 oed neu'n hŷn.
  • Mae gennych gyflwr iechyd hirdymor sy'n golygu bod eich risg o fynd yn sâl oherwydd y ffliw yn uwch.
  • Rydych chi’n byw mewn cartref gofal.

Rydym yn cynghori’r grwpiau canlynol hefyd i gael y brechlyn ffliw er mwyn eu diogelu eu hun a'r bobl o'u cwmpas:

  • Plant sy’n ddwy a thair oed (ei oedran ar 31 Awst 2021).
  • Plant a phobl ifanc mewn blynyddoedd ysgol o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11.
  • Gofalwyr.
  • Pobl sy’n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion / cleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Pobl sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd gwael.
  • Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn fel chwistrelliad yn y trwyn gan mai hwn yw'r brechlyn ffliw gorau iddyn nhw. Mae'n anwedd mân sy’n cael ei chwistrellu fyny'r trwyn a gellir ei roi o ddwy oed.

 

Dos

Pwy sy'n gymwys

Dyddiadau ar gael

Dyddiadau allweddol ychwanegol

Proses Gyflawni

Cwrs cynradd (dos 1, 2 ac ar gyfer grwpiau penodol dos 3)

Yn agored i'r boblogaeth gyfan, oed 5+

Cynnig yn dod i ben 30 Mehefin 2023

Dyddiad brechu olaf (ar gyfer y cyntaf o ddau ddos):

  • 7 Ebrill ar gyfer plant dan 18
  • 5 Mai (oed 5+ mewn grwpiau risg, ac oed 18+)

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW: ffoniwch y tîm archebu ar 01874 442510 i drefnu apwyntiad

Brechlyn Atgyfnerthu 1af (Cyhoeddwyd yn Hydref 2021)

Oed 16+

Oed 5+ mewn grwpiau risg

Cynnig yn dod i ben 31 Mawrth 2023

31 Mawrth 2023

Clinigau GALW HEIBIO ar gael mewn unrhyw Ganolfan Brechu Torfol

Brechlyn Atgyfnerthu Hydref 2022

Grwpiau cymwys:

• preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

• gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

• pob oedolyn 50 oed a throsodd

• pobl rhwn 5 a 49 oed mewn grŵp risg clinigol, fel y'i nodir yn y Llyfr Gwyrdd

• pobl rhwng 5 a 49 oed sy'n gyswllt cartref rhywun sydd â gwrthimiwnedd

• pobl rhwng 16 a 49 oed sy'n ofalwyr, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd

Cynnig yn dod i ben 31 Mawrth 2023

31 Mawrth 2023

Clinigau GALW HEIBIO ar gael mewn unrhyw Ganolfan Brechu Torfol

Brechlyn Atgyfnerthu Gwanwyn (Ebrill 2023)

Grwpiau cymwys:

• oedolion 75 oed a throsodd

• preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn

• unigolion 5 oed a throsodd sydd â gwrthimiwnedd, fel y'u diffinnir mewn tablau 3 neu 4 ym mhennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd

Cynnig yn dechrau 1 Ebrill

Amh

TRWY WAHODDIAD: Fe'ch gwahoddir i apwyntiad drwy lythyr.

 

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau salwch anadlol ym Mhowys, gan gynnwys COVID-19 a'r Ffliw, ewch i https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/  a https://biap.gig.cymru/aros-yn-iach/brechlyn-ffliw/

Cyhoeddwyd: 10/03/2023

Rhannu:
Cyswllt: