Nid yw ychydig o straen yn beth drwg - mae'n ymateb naturiol i sefyllfaoedd heriol, a ffordd y corff o ymateb i bwysau, gan sbarduno newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n ein helpu ni ymdopi.
Ond pan fydd straen yn dod yn gronig neu'n llethol, gall effeithio'n negyddol ar iechyd, lles a pherfformiad.
Gallai ymddangos fel gorbryder, anniddigrwydd, blinder, neu anhawster canolbwyntio, neu hyd yn oed symptomau corfforol fel cur pen a thensiwn cyhyrau.
Os na chaiff ei reoli, gall straen arwain at orflinder, absenoliaeth, a phroblemau iechyd meddwl hirdymor.
Mae wythnos ymwybyddiaeth straen eleni yn canolbwyntio ar reoli straen yn y gweithle, gyda ffocws ar sut y gall arweinwyr greu amgylcheddau gwaith meithringar sy'n caniatáu i weithwyr ffynnu.
Gyda hynny mewn golwg, dyma bum cam strategol y gall cyflogwyr eu cymryd i reoli straen a chefnogi lles staff:
Anogwch weithwyr i gymryd seibiannau rheolaidd, defnyddio gwyliau blynyddol, a datgysylltu y tu allan i oriau gwaith. Dylai arweinwyr fodelu'r ymddygiad hwn i ddangos bod lles yn flaenoriaeth, nid yw’n beth moethus.
Darparwch lwybrau clir at adnoddau iechyd meddwl, gan gynnwys cwnsela, diwrnodau iechyd meddwl, ac offer lles digidol fel SilverCloud® Cymru. Cyfathrebwch yn rheolaidd beth sydd ar gael a normaleiddiwch ymddygiad o geisio cymorth.
Gall hyblygrwydd helpu lleihau straen yn fawr. Boed yn gweithio o bell, oriau hyblyg, neu wythnosau cywasgedig, mae rhoi rheolaeth i weithwyr dros eu hamserlenni - lle bo modd - yn eu helpu nhw reoli cyfrifoldebau personol a lleihau pwysau.
Ceisiwch feithrin gweithle diogel yn seicolegol lle mae gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus yn trafod straen ac iechyd meddwl. Gall hyfforddiant, gweithdai a rhwydweithiau cymorth cyfoedion helpu chwalu stigma a meithrin gwydnwch.
Mae cydnabod ymdrech a chyflawniad yn hybu morâl ac yn lleihau straen. Nid oes rhaid i gydnabyddiaeth fod yn fawreddog - mae gwerthfawrogiad syml a chyson yn mynd yn bell i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol.
Cymorth gan GIG Cymru
Os ydych chi'n awyddus i wella'ch cynnig lles yn y gweithle, mae GIG Cymru yn darparu mynediad am ddim at SilverCloud®, sef cyfres o raglenni iechyd meddwl ar-lein. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogaeth dan arweiniad ar gyfer straen, gorbryder, hwyliau isel, pryderon ariannol a mwy, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu.
Mae SilverCloud ® yn defnyddio technegau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol sydd wedi'u profi'n glinigol i helpu defnyddwyr herio meddwl negyddol a chymryd camau cadarnhaol.
Cyhoeddwyd: 03/11/2025